Mae Cylch Meithrin Penparc, Aberteifi, wedi ennill dwy o brif wobrau'r Mudiad Meithrin wrth i'r mudiad ddathlu llwyddiant y sector addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru mewn Seremoni Gwobrau.

Bwriad y digwyddiad yw gwobrwyo'r rhai sy'n gweithio yn y mudiad yn ogystal â chodi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru mewn ymdrech i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg.

Daeth Penparc i'r brig yng nghategoriau Dewin a Doti a Chynhwysiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Dewin a Doti yw cymeriadau swyddogol Mudiad Meithrin ac felly mae’r wobr yn cael ei roi i’r cylch sydd wedi gwneud y defnydd orau ohonynt yn y cylch.

Fel mudiad sy’n angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn elwa o brofiadau blynyddoedd cynnar o safon uchel a llawn hwyl, mae'r gwobrau am ddangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru.

Cynhaliwyd y seremoni ar brynhawn Sadwrn, Hydref 2, yn Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, ac roedd y gyflwynwraig deledu boblogaidd Mari Lövgreen yn cyflwyno’r seremoni yn slic a phroffesiynol iawn.

Meddai Leanne Marsh, Pennaeth datblygu gwasanaethau Mudiad Meithrin: “Mae’r Seremoni Gwobrau yn ffordd hyfryd o godi proffil y gweithlu a lleoliadau blynyddoedd cynnar.

"Mae’r modd arwrol mae’r staff wedi ymdopi i gynnal y gwasanaeth i blant staff allweddol yn ystod y pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw’r gwasanaeth yma i’r gymuned leol ac i’r economi’n gyffredinol. Mae’n ffordd hyfryd i staff a gwirfoddolwyr gael eu cydnabod trwy gael eu henwebu gan rieni’r plant sy’n eu gofal.”

Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr y Mudiad: “Mae'r Seremoni Gwobrau’n rhoi cyfle i Mudiad Meithrin gydnabod a diolch i'n staff a'n gwirfoddolwyr ar lawr gwlad gan adeiladu eleni ar ymgyrch yn ystod mis Medi i dynnu sylw at waith pwyllgorau.

"Roedd hi’n hyfryd cael cyfle i gyd-ddathlu’r arfer dda sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru, dod at ein gilydd i wneud hynny a darlledu popeth ar y we hefyd.”

Roedd naw categori yn y Seremoni Gwobrau sy’n cynnwys: Arweinydd, Cynorthwyydd, Gwirfoddolwr, Cylch Meithrin, Meithrinfa Ddydd, Cynhwysiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Chwarae a Dysgu Tu Allan, Dewin a Doti, a Phwyllgor Cylch.

Nid oedd gwobr ariannol ar gyfer yr enillwyr. Yn hytrach, anfonwyd tystysgrif ac englyn arbennig i’r enillwyr a thystysgrif i’r ail a’r trydydd i'w harddangos yn y cylch/meithrinfa.

CANLYNIADAU

Arweinydd (Noddwyd y categori gan Gyngor Sir Ceredigion): 1. Kate Jenkins (Cylch Meithrin Tedi Twt, Caerffili); 2. Hannah Lines-Zechmann (Cylch Meithrin Llangyndeyrn, Sir Gaerfyrddin); 3. Sioned Wyn Jones Roberts (Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys)

Chwarae a Dysgu Tu Allan: 1.Cylch Meithrin Eco Tywi, Sir Gaerfyrddin; 2.Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd; 3. Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin

Cynorthwy-ydd : 1. Carys Price (Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys); 2. Lindsay Turner (Cylch Meithrin Pontarddulais, Abertawe); 3. Karlie Jo Davies (Cylch Meithrin Penderyn, Rhondda Cynon Taf)

Cylch Meithrin y De-ddwyrain : 1. Cylch Meithrin Evan James, Rhondda Cynon Taf; 2. Cylch Meithrin Camau Cyntaf Llanhari, Rhondda Cynon Taf; 3. Cylch Meithrin Nant Dyrys, Rhondda Cynon Taf

Cylch Meithrin y De-orllewin a’r Canolbarth (Noddwyd y categori gan Gyngor Sir Ceredigion) : 1. Cylch Meithrin Crymych, Sir Benfro; 2. Cylch Meithrin Cylch yn yr Ysgol, Powys; 3. Cylch Meithrin Tal-y-Bont, Ceredigion

Cylch Meithrin y Gogledd-ddwyrain a’r Canolbarth (Noddwyd y categori gan Gyngor Sir Powys) : 1. Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys; 2. Cylch Meithrin Drenewydd, Powys; 3. Cylch Meithrin Pontrobert, Powys

Cylch Meithrin y Gogledd-orllewin (Noddwyd y categori gan Ateb) : 1. Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd; 2. Cylch Meithrin Dolgellau, Gwynedd; 3. Cylch Meithrin Sarnau a Llandderfel, Gwynedd

Cylch Meithrin Gorau Cymru : 1. Cylch Meithrin Pwllheli, Gwynedd

Dewin a Doti: 1. Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion; 2. Cylch Meithrin Hywel Dda, Sir Gaerfyrddin; 3. Cylch Meithrin Mornant, Sir y Fflint

Meithrinfa Ddydd (Noddwyd y categori gan Gofalwn Cymru : 1. Meithrinfa Cwtsh y Clos, Sir Gaerfyrddin; 2. Meithrinfa Seren Fach, Gwynedd; 3. Meithrinfa Y Cam Cynta, Sir Gaerfyrddin

Pwyllgor (Noddwyd y categori gan Darwin Gray) : 1. Cylch Meithrin Glantwymyn, Powys; 2. Cylch Meithrin Beddau, Rhondda Cynon Taf; 3. Cylch Meithrin Dyffryn Banw, Powys

Gwirfoddolwr (Noddwyd y categori gan Panel Cyfryngau Cymru) : 1. Eifiona Wood (Cylch Meithrin Abersoch, Gwynedd); 2. Siôn Hughes, (Cylch Meithrin Bwcle, Sir y Fflint); 3. Michelle Killey (Cylch Meithrin Tonyfelin, Caerffili)

Cynhwysiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Noddwyd y categori gan S4C) : 1. Cylch Meithrin Penparc, Ceredigion; 2. Cylch Meithrin Y Bedol, Sir Gaerfyddin; 3. Cylch Meithrin Myrddin, Sir Gaerfyrddin