BU aelodau Merched y Wawr yn sir Benfro'n cwrdd yn y cnawd am y tro cyntaf ers misoedd yn gynharach yn y mis.

Ar Fehefin 10, bu cangen Merched y Wawr Ffynnongroes yn cwrdd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers mis Medi 2020.

Bu'r aelodau’n cwrdd ym maes parcio tafarn Y Salutation, Felindre Farchog, a cherdded ar hyd llwybr yr afon Nyfer hyd at gyrion eglwys y plwyf.

Dyma gyfle gwych i ddala lan gyda ffrindiau na welwyd ers misoedd. Cerdded yn ôl ar hyd y llwybr i dderbyn pryd o fwyd arbennig gyda’n haelod Brenda Lewis yn Y Salutation.

Ar ôl y swper blasus, gyda rhai’n coroni’r sawrus gyda digon o ddewis o bwdinau melys. Nest a Rhian yn cloi eu swyddogaeth estynedig gyda chyfarfod blynyddol ac yn ethol Wendy Phillips yn is-lywydd a Mair Vaughan is-ysgrifenyddes.

Wrth y lliw am y flwyddyn sydd i ddod fydd Pam Griffiths a Rhian Selby. Fydd y cyfarfod nesaf ar Orffennaf 8, a phenderfynwyd cynnal noson casglu sbwriel o amgylch eich ardal. Fydd fwy o fanylion yn agosach at yr amser.

Cynhaliwyd taith gerdded y rhanbarth Merched y Wawr Penfro yn Maenor Scolton ar Fehefin 12 a chufle i gwrdd yn y cnawd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers misoedd.

Hyfryd gweld gymaint wedi ymgynnull mewn lleoliad ysblennydd ar ddiwrnod heulog o haf. Cyfle i weld ffrindiau a dala lan gydag aelodau o'r gwahanol ganghennau.

Dyma'r merched yn cerdded y llwybrau niferus, ymweld â Maenor Scoton, cerdded o gwmpas y gerddi caerog a bwyta picnic allan yn yr haul.

Diolch i Ann a Buddug am drefnu ac ail drefnu, cyfarfod llwyddiannus iawn! Mae'r rhanbarth yn bwriadu trefnu ymweliad â Llysyfrân mis nesaf, mwy o wybodaeth yn agosach at yr amser. Croeso cynnes i bawb.