Mae Clwb Gwawr Glannau Teifi wedi bod yn brysur er gwaetha'r clo mawr.

Gweithgaredd mis Tachwedd oedd mynd am dro yn yr awyr agored o Hen Orsaf Aberteifi draw i Barc Bywyd Gwyllt Cilgerran.

Roedd y tywydd yn digwydd bod yn sych ac yn fwyn, ac roedd cyfle i sgwrsio, o bellter, a chafwyd dished a chacen ar y meinciau y tu allan i’r ganolfan

Diolch i Anwen Griffiths a Karen Symmonds am feddwl am y weithgaredd Noson ‘Dangos a Dweud’ a gynhaliwyd ar nos Wener, Ionawr 22, ar Zoom.

Daeth pawb ag ambell eitem oedd yn golygu llawer iddynt, fel sofren aur o 1908, dwy oriawr aur, Arth Rupert, lluniau oedd wedi eu gwneud allan o wlân, maen coginio pice ar y maen, hen Feibl y teulu a bocs o luniau, pelfis blastig (mae un o’r aelodau yn gyn-fydwraig!), tystysgrif aelodaeth Gorsedd Beirdd Prydain a llun o Dic Jones fel yr Archdderwydd, a chadair bren ddefnyddiol.

Roedd yn hyfryd gweld yr eitemau hyn a’r hanesion diddorol.

Os oes chwant ymuno â Chlwb Gwawr Glannau Teifi, bydd croeso mawr i chi. Y cysylltydd yw Natalie Morgan – ffoniwch 07896 174968 neu danfonwch ebost at njm84@outlook.com.

Mae hefyd tudalen Facebook gyda'r clwb. Maent yn trefnu gweithgareddau rhithiol yn ystod y clo mawr, ond yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wyneb cyn bo hir. Ymunwch yn y cyfle i gymdeithasu yn Gymraeg!