Croesawyd pawb i gyfarfod mis Medi Merched y Wawr Ffynnongroes gan y llywydd Pam Griffiths am noson hwylus a hamddenol yng nghwmni Geraint James, Siop Awen Teifi a phawb yn dilyn rheolau pellter cymdeithasol wrth gwrs.

Lleoliad newydd y noson oedd Capel Bethabara a diolch i Rhian Selby a swyddogion Bethabara am ganiátau i'r gangen gwrdd yn y capel.

Entrepreneuriaid yr ardal yw Geraint a Siân James, pobl busnes gyda gweledigaeth i fentro, ac o hyd yn barod i blesio’r cwsmer!

Wnaeth Geraint sôn am eu dyddiau cynnar yn agor Siop D J Abergwaun yn 1995. Geraint yn bostmon a Siân yn athrawes, ar angen gan Siân am adnoddau addysgol yn y Gymraeg. Wedyn symud i Aberteifi yn 1999 yn gyntaf i Ganolfan Teifi ac wedyn i'r lleoliad presennol ar y brif stryd.

Agorodd Geraint a Siân oriel lwyddiannus yn arddangos lluniau Aneurin Jones a hefyd Meirion a Joanna Jones.

Yn ddiweddar fe welwyd Siop Awen Teifi ar olwynion! Yn ystod y cyfnod clo nid oedd cwsmeriaid yn gallu dod i'r siop a dyma Geraint a Siân yn teithio at y cwsmeriaid mewn fan wedi ei addurno’n bwrpasol.

Menter newydd dros dro sydd yn dosbarthu archebion i gadw’r cwsmer yn hapus. I weld holl nwyddau Siop Awen Teifi gan gynnwys llyfr MyW Curo Corona Coginio, ewch i wefan awenteifi.com neu Facebook.

Cafwyd cyfarfod byr, a dosbarthwyd cylchgrawn Y Wawr, lle y gwelwyd sawl tudalen yn sôn am anturiaethau nifer o aelodau Rhanbarth Penfro.

Yn dilyn trafodaeth yn y cyfarfod, penderfynwyd, ar ôl ystyried pryderon Cofid-19 a chyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynglŷn â chwrdd mewn adeilad, gohirio rhaglen MyW Ffynnongroes 2020-21.

Gobeithio fydd y gangen yn ail gychwyn ym mis Ebrill 2021. O ran tâl aelodaeth mae'r gangen yn ymwybodol fod hyn yn gyfnod heriol ar bawb ac yn mawr obeithio y bydd yr aelodau yn hapus i gefnogi elusen Merched y Wawr er mwyn sicrhau dyfodol i’r mudiad.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thalu, cysylltwch gyda thrysorydd y gangen Ceri Davies ar 01239 891296.