Bydd tymor nesaf Cerddwyr Cylch Teifi yn dechrau yn fuan, ar ôl egwyl dros yr haf.

Mae'r teithiau ar yr ail ddydd Sadwrn yn y mis (ar wahân i daith fis Ebrill 2020 a fydd ar y Sadwrn cyntaf oherwydd y Pasg) ac maent yn para rhyw dwy awr.

Hyd y daith yw rhyw dwy a hanner i dair milltir fel arfer, gan glywed sgyrsiau diddorol gan wahanol arweinwyr wrth fynd. Mae croeso cynnes i bawb.

Darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy'n gymwys i dir gwlyb ac anwastad: a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth.

Os nad ydych chi wedi cerdded gyda'r grwp o'r blaen, cysylltwch i gael y manylion llawn ac i ddod ar y rhestr bostio: philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Ar gyfer taith gyntaf y tymor, ddydd Sadwrn, Hydref 12, bydd y grwp yn cerdded Uwchlaw Llandudoch, a'r arweinydd fydd Terwyn Tomos. Gadael maes parcio Capel Blaenwaun, Llandudoch am 10.30yb (SN 161 448, cod post SA43 3JL). Bydd yn daith gylch o ryw dair milltir, tua dwy awr, ar lwybr ceffyl ac yn bennaf ar heolydd tawel.

Ar ôl ymweliad ag adfeilion yn y coed cyfagos byddwn yn cerdded lan y llwybr ceffylau heibio Fferm Penwaun ac wedyn ar hyd y ffordd galed heibio Trenewydd i gyfeiriad Waunwhiod cyn mynd i lawr Cwm Degwel i groesffordd Pen-cwm a throi i’r dde ac yn ôl i’r maes parcio.

Efallai y tocir ychydig ar y daith drwy groesi’r caeau rhwng ffermydd Penwaun a Colwyn. Fydd dim sticlau a'r esgyniad fydd 280 troedfedd (yn bennaf wrth gerdded y llwybr ceffylau).

Mae'n debyg bydd ychydig o fwd ar ôl tywydd gwlyb yn enwedig wrth y gatiau ar y llwybr ceffylau (ac ar y caeau os awn ni ar eu traws).

Fel arfer bydd rhaid cadw cŵn ar dennyn (oherwydd defaid a cheffylau). Ceir dysgu am hanes sy’n gysylltiedig â Rhos Gerdd (enw’r adfeilion); hanes Mallt Williams o blas Pantsaeson, cymwynaswraig fawr i’r Gymraeg yn lleol a chenedlaethol; brwydr Llandudoch (rhwng y Cymry a’r Normaniaid rywle yn yr ardal hon); a bedyddfan awyr agored Blaenwaun - yn ogystal â golygfeydd godidog wrth gerdded.

Bydd rhai yn cymdeithasu dros luniaeth wedyn yn y Cartws neu Dafarn y Ferry yn Llandudoch.

Teithiau hyd at y Nadolig fydd yn cynnwys:

Tachwedd 9: Cwm Alltcafan, Pentre-cwrt. Gadael maes parcio Tafarn Plas Parke (sy wedi cau)

(SN385 386, cod post SA44 5AX) am 10.30yb. Arweinydd: Dafydd Davies

Rhagfyr 14: Aber Afon Teifi. Gadael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert

(SN163 493, cod post SA43 1PP) am 10.30yb. Arweinydd: Howard Williams

Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.