Cynhaliwyd achlysur dedwydd yng Nghapel Mair, Aberteifi, yn ddiweddar wrth i’r eglwys gydnabod gwasanaeth y Parch Irfon Roberts i’r weinidogaeth yng Nghymru am hanner can mlynedd.
Daeth yn weinidog gweithgar a diwyd i Gapel Bethania a Chapel Mair ym mis Ebrill 1998 wedi treulio cyfnodau llwyddiannus a byrlymus yn ardaloedd Caio, Castellnewydd Emlyn a Brynaman.
Ymhlith y rhoddion, cyflwynwyd englyn o waith y Prifardd Ceri Wyn Jones iddo a thusw o flodau i’w briod ymroddgar, Mrs Mair Roberts.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here