Mae Ysgol Y Ddwylan, Castell Newydd Emlyn, wedi cynnal taith gerdded ‘Welly Walk’ i godi arian tuag at ddatblygu adnoddau ac yr ardal awyr agored yn yr ysgol.

Cred yr ysgol yw bod lles y disgyblion yn bwysig ac mae addysgu yn yr ardal allanol yn ogystal â dysgu’n fewnol yn rhan o brofiadau bob dydd y plant. Mwynheuodd y plant a rhieni’r ysgol gwisgo’r esgidiau glaw a chodwyd £893.

Mae’r ysgol yn ddiolchgar am gefnogaeth pawb tuag at y digwyddiad ac yn arbennig Megan Owen- Davies, cydlynydd dysgu allanol.