Cymdeithas yr Hoelion Wyth yn cefnogi Ysgol y Cwm Trefelin Patagonia unwaith eto. Yn y llun gwelir Eurfyl Lewis (cadeirydd Cymdeithas yr Hoelion Wyth ) yn cyflwyno siec am £5,000 i Ysgol y Cwm Trefelin ym Mhatagonia drwy law Jeremy Wood (yn wreiddiol o Gymru ond sy’n byw yn y Wladfa erbyn hyn).

Hefyd yn y llun mae John Watkin (fu’n cydlynu’r ymgyrch ers y dechrau) ac aelodau’r Hoelion Wyth.

Dyma’r drydydd flwyddyn yn olynol i Gymdeithas yr Hoelion Wyth gyflwyno siec am £5,000 i Ysgol y Cwm. Codwyd yr arian drwy ymgyrch gwin Meibion y Mimosa drwy werthu gwin Malbec P15 o Batagonia.