Cynhaliodd aelodau CFfI Ceredigion eu Treiathalon Noddedig yn ddiweddar. Daeth yn agos i gant o aelodau o Droed yr Aur i Dalybont i'r ganolfan yn Llanddewi Brefi i ymgymryd â'r sialens, sef seiclo 30km, rhedeg/cerdded 5km a rhwyfo 2km - cyfanswm o 37km (23 milltir). Bydd yr elw yn cael ei rannu rhwng elusen y sir am y flwyddyn, sef Alzheimer's Cymru, a'r clybiau.