Testun y siaradwr yng ngyfarfod Ebrill Cymdeithas Ceredigion oedd 'Lle Ceredigion yn y lle celf (yn yr Eisteddfod Genedlaethol)'.

Roedd Robyn Tomos,Talgarreg, fel swyddog celfyddydau gweledol yr Eisteddfod, yn arbennig o gymwys i draethu ar hanes y lle celf a rhan Ceredigion ynddo.

 chymorth sleidiau ardderchog rhoddodd Robyn gyflwyniad bywiog a lliwgar i ddangos pa mor anghywir oedd meddwl am oriel yr Eisteddfod fel datblygiad modern ac ymylol i brif feysydd yr ŵyl.

Un o’i brif themâu oedd y ddadl am beth yn union y dylai’r lle celf ei arddangos: a oedd pob math o waith a berthynai i brif ffrydiau celfyddydol rhyngwladol gan arlunwyr o Gymru yn gymwys ynteu dim ond gwaith a’i wreiddiau yng nghrefft fodorol Cymru, fel yr ystyriau Iorwerth Peate, sefydlydd Amgueddfa Werin Cymru.

Wrth gamu trwy’r degawdau, roedd cyfraniad Ceredigion yn amlwg, yn ddiweddar er enghraifft drwy ddylanwad Aneurin Jones.

A daeth Robyn â'i sgwrs i ben wrth ddangos pwt o ffilm a wnaethpwyd gan arlunwraig ifanc o Dalgarreg am baratoi bwyd i ddangos darn o gelfyddyd a oedd ar yr un pryd yn arbrofol a hefyd wedi ei osod yn gadarn yn ei milltir sgwâr.

Busness arall y noson oedd cyfarfod cyffredinol y gymdeithas a’i uchafbwynt oedd trosglwyddiad tlws y llywydd, a hynny i Robyn Tomos ei hun gan ei ragflaenydd Carol Byrne Jones.

Mae Carol wedi bod wrth’n ddiflino am ddwy flynedd bron ac wedi creu rhaglen gyffrous, greadigol, ffres, arloesol a hollol bendigedig ar gyfer y tymor sydd newydd ddod i ben.