Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth ar ddydd Sadwrn yn Neuadd y Pentref. Mwynhawyd gwledd o gystadlu drwy gydol y dydd a llwyddwyd i gynnal safon arbennig o uchel.

Llywydd yr Eisteddfod eleni oedd Mr Geraint Jones, Llambed. Un o feibion Pantyrhendy, Llanarth yw Geraint a braf iawn oedd cael ei bresenoldeb yn y cwrdd prynhawn gyda'i deulu a hefyd yn y cwrdd nos.

Cafwyd ganddo araith ddiddorol dros ben a diolchwyd yn fawr iddo am y rhodd haelionus iawn i'r Eisteddfod.

Beirniaid yr Eisteddfod am eleni oedd: Llên a llefaru - Mrs Ivoreen Williams o Gapel Hendre a chloriannwyd adran y gerddoriaeth gan Mrs Meinir Jones Parry o Gaerfyrddin.

Beirniaid yr adran ddawnsio oedd Mrs Elen Davies a'i brawd Eifion Thomas. Dyfarnwyd y gwaith arlunio gan Mrs Eirlys Thomas o Gilfachreda a chyfeiliwyd gan Mrs Lynne James o Gastell Newydd Emlyn.

Rhannwyd y gwaith o arwain yr Eisteddfod gan y canlynol - Mr Hywel Thomas (prifathro), Mrs Catrin Bellamy Jones, Miss Lowri Jones a Mr Alan Thomas.

Enillwyd cadair yr Eisteddfod, a wnaed ac a rhoddwyd gan Arwel Jones, Fronwen gan Catrin Woodruff o Lanrhystud. Yr oedd seremoni'r cadeirio yng ngofal Ivoreen Williams.

Cyrchwyd yr enillydd i'r llwyfan gan Sioned Jones a Gethin Lewis a hwy hefyd wnaeth gyfarch y bardd ifanc. Canwyd cân y cadeirio gan Ceirios Evans. Braf iawn yw gweld ieuenctid yr ardal yn cymryd at y rhannau arweiniol yn y seremoni yma.

Hoffai'r pwyllgor gydnabod cymorth y gwragedd a fu'n glanhau a pharatoi'r neuadd a gofalu am y lluniaeth gydol y dydd a'r stiwardiaid fu ar y drws.

Diolch i'r canlynol am noddi'r Eisteddfod eleni - Cyngor Sir Ceredigion a Chronfa Pantyfedwen. Diolch yn fawr hefyd i brifathro a staff ysgol Llanarth am eu gwaith caled yn paratoi'r holl blant ar gyfer yr adran leol.

Llawer o ddiolch i'r rhai a fu'n helpu i gynnal yr Eisteddfod, ac os hoffech wirfoddoli i helpu flwyddyn nesaf, boed yn y drws, neu yn helpu yn y gegin, croeso i chi roi eich enwau i Nerys ar 01545 580117.

Mae'r pwyllgor yn falch iawn o dderbyn bob help er mwyn ysgafnhau'r baich ar y gwirfoddolwyr presennol. Dyma'r canlyniadau: