Ar noson rewllyd o Chwefror, ddaeth nifer go-lew o aelodau Cymdeithas Ceredigion i Gaffi Emlyn i ddysgu mwy am Canu Coch Ceredigion, teitl y cyflwyniad gan Meiner Jones Parry ac Owen Shiers.

Agoroddd Meinir ei darlith drwy amlinellu sut yr ysgogwyd ei diddordeb yn y pwnc. Roedd am wneud traethawd fel rhan o’i gradd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd a chafodd ei harwain at gasgliad J Ffos Davies (1882-1951) gan Elfed Lewis a’i rhoddodd mewn cysylltiad â Martha Thomas, Cribyn.

Roedd gan Martha atgofion byw o J Ffos o’i dyddiau ysgol pan oedd yntau yn brifathro iddi. Cafodd Meinir gymorth hefyd gan Phyllis Kinney, Meredydd Evans a hefyd gan Roy Saer, o Amgueddfa Sain Ffagan, lle y cedwid y casgliad.

Yn wreiddiol o Fferm Ffos ger Pren-gwyn, defnyddiodd JFD ffynonellau llafar yn ogystal â phapur i ddod â’r caneuon gwerin at ei gilydd (o 1928 ymlaen) gan gynnwys gywbodaeth y teuluoedd lleol trwy eu plant yn ei ysgol yng Ngheredigion.

Cofnodwyd y geiriau a’r tonau (mewn nodiant sol-ffa) mewn llyfrau ymarferion ysgol heb unrhyw ymdrech i ddiwygio’r testun (yn groes i arfer casglwyr eraill).

Un dydd, wrth ymweld â’r ysgol, sylwodd arolygydd ysgolion ar y llyfrau, penderfynu eu bod yn werth eu cyhoeddi a chael ganiatâd gan Ffos i fynd â nhw. Cyhoeddwyd y casgliad maes o law gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion o dan y teitl ‘Forty Welsh Traditional Tunes’ ar ôl cryn dipyn o olygu.

Gosodwyd yr alawon mewn ‘two-part harmony’ a pharchuswyd y geiriau; er enghraifft newidiwyd ‘cynhaig’ i ddisgrifio merch chwantus i ‘Cymraeg’ (gan gadw’r odl!).

Ymhlith pethau eraill, pwysleisodd Owen bwysigrwydd cadw’r geiriau gwreiddiol am sawl rheswm megis eu gwerth fel dogfennau cymdeithasol oedd yn adlewyrchu agweddau bywyd cefn gwlad gan gynnwys radicaliaeth wleidyddol.

Canwyd wedyn rai o ganeuon mwyaf adnabyddus y casgliad – ac yn eu plith 'Tripiau Aberystwyth' a’r 'Gryman Fach' gan Owen a hefyd gan aelodau’r Gymdeithas, 'Y March Glas' gan Calfin Griffiths ac eraill gan Robyn Tomos (gan gynnwys 'Dyffryn Clettwr', 'Ffarwél i Blwy Llangywer') ac yn olaf arweiniodd Owen y gynulleidfa wrth ganu 'Twll Bach y Clo', i gyfeiliant Meinir.

Wrth fynegi gwerthfawrogiad y gynulleidfa a’u pleser pur daeth llywydd y gymdeithas, Carol Byrne Jones, â’r noson i’w therfyn.