Mae prif arolygydd Estyn wedi canmol Ysgol y Preseli ar eu brwdfrydedd ac ymroddiad.

Cafodd Mr Meilyr Rowlands gyfle i gwrdd gydag aelodau’r tîm rheoli, cadeirydd y llywodraethwyr a’r Senedd Ysgol.

Cafwyd cyflwyniadau yn amlinellu meysydd o arfer orau’r ysgol gan gynnwys safonau a thracio, darpariaeth ar gyfer disgyblion mwy abl a thalentog, Prosiect Lles Harvard a dysgu proffesiynol. Yn ogystal, holwyd am farn yr ysgol am addysg yng Nghymru.

Dywedodd Mr Rowlands: “Fe wnes i fwynhau cyfarfod ag athrawon a disgyblion Ysgol y Preseli yn fawr a chanfod mwy am yr ysgol a’i gwaith.

"Roedd gen i ddiddordeb mewn gweld drosof fy hun yr arfer ragorol a ddisgrifiwyd yn adroddiad arolygu Estyn a’r astudiaethau achos arfer orau, yn benodol, defnyddio hunanwerthuso i herio ac annog disgyblion mwy abl a thalentog. "Roeddwn yn gwerthfawrogi’n arbennig y cyflwyniadau ystyriol a roddwyd. Hoffwn longyfarch staff a disgyblion ar eu brwdfrydedd ac ymroddiad, a diolch am y drafodaeth agored, onest a buddiol."