MAE myfyrwraig meedygaeth wedi ennil gwobr arbennig yn un o brif gystadlaethau’r Adran Wyddoniaeth a Thechnoleg yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018..

Roedd Cadi Nicholas, o Flaenffos, Crymych, yn fuddugol mewn cystadleuaeth gyffrous yn yr Adran Wyddoniaeth a Thechnoleg sy’n gwobrwyo syniad arloesol a chreadigol er budd cymdeithas.

Fel rhan o’i chwrs meddygaeth, penderfynodd Cadi lunio prosiect i daclo’r duedd yn y nifer gostyngedig o geisiadau gan ymgeiswyr o Gymru i’r Ysgol Meddygaeth yng Nghaerdydd.

Yn rhan o’i gwaith ymchwil, bu’n ymweld â thrawsdoriad o ysgolion yn ardal Penybont- ar-Ogwr yn ystod paratoadau Eisteddfod Gendedlaethol yr Urdd 2017.

Yno, yn yr eisteddfod ac yn ystod penwythnos Tafwyl, lawnsiwyd sesiynau blasu llwyddiannus. Sesiynau ymarferol oedd y rhain yn cynnwys defnydd o offer laproscopig a roddwyd dan nawdd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, gyda’r bwriad o ysbrydoli a chyffroi meddygon ifanc y dyfodol.

Diolchodd Cadi i’w chyd-fyfyrwraig Lowri Roberts ac i Miss Awen Iorwerth o Ysgol Meddygaeth Caerdydd eu cyd-weithrediad ac arweiniad.

Mae Cadi’n edrych ymlaen at ei blwyddyn olaf ar y cwrs meddygaeth pan gaiff y cyfle i deithio i ben pella’r byd i roi ei sgiliau meddygol ar waith.