CYNHALIWYD Cymanfa Ganu Bedyddwyr Gogledd Penfro ym Mlaenffos ddydd Llun, Mai 7.

Cafwyd y rihyrsal ola’r diwrnod cynt ym Methabara, yng nghwmni’r arweinyddes wadd, sef Claire Jones, gynt o Crymych.

Iwan Thomas o Seion, bachgen yn ei arddegau, a gymerodd at y rhannau arweiniol yn y pnawn ac aeth y plant drwy’u hemynau yn hyderus a chywir.

Dwy ddiacones o Bethabara a greodd y naws pwrpasol i gychwyn oedfa’r hwyr, sef Eileen Thomas ac Elizabeth John, a gwragedd diwyd Bethabara hefyd fu’n gweini wrth y byrddau amser tê.

Llywyddwyd y ddwy oedfa gan weinidog yr eglwys sef Parch Rhosier Morgan. Y bore canlynol ynghanol heulwen hyfryd, troediodd y cantorion a’r cefnogwyr i gapel Blaenffos.

Llywydd oedfa’r plant yn y bore oedd Mari Grug – un o ser y byd teledu sy’n ymddangos ar raglenni 'Prynhawn Da' a 'Heno', a sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn Eglwys Ebeneser Dyfed.

Gosodwyd cychwyn graenus i’r gwasanaeth gan dair o ferched ifainc o Ysgol Sul Blaenffos sef Mallt a fu’n darllen, Emily a gyflwynodd weddi ac Eleri a berfformiodd ddarn ar y delyn.

Croesawyd yr arweinyddes gan y llywydd a nodwyd bo’r ddwy ohonyn nhw yn adnabod ei gilydd ers dyddiau’r ysgol gynradd. Cafwyd canu swynol iawn gan y plant a’r emynau yn amlwg, yn dangos y gwaith caled a wnaed mewn rihyrsals blaenorol.

Nododd Claire pa mor hyfryd oedd gweld yr oriel yn llawn plant yn mwynhau canu – rhai ohonyn nhw ond pum neu chwe mlwydd oed. Darllennwyd geiriau’r emynau gan y canlynol: Beca; Elin; Gwenno Francis; Gwenno James; Ela; Gwenan; Megan; Dyfan; Trystan; Owen; Dafydd; Gwern a Glain.

Cafwyd sgwrs ddifyr rhwng Mari Grug â’r tô ifanc, a gwrandawyd ar eu gobeithion nhw am swyddi, a’r hyn a ddymunent gyflawni ar ôl tyfu’n oedolion.

Yn dilyn toriad dros ginio, daeth yn amser i oedfa'r prynhawn ddechrau o dan lywyddiaeth Mrs Eirian Evans, gynt o Blaenffos. Roedd y Parch Gareth Morris yn gyfrifol am y darllen a’r weddi. R

hannodd Eirian lu o’i hatgofion cynnar pan oedd yn blentyn yn dilyn yr Ysgol Sul, a mynd i’r gymanfa yn flynyddol.

Merch y diweddar Gwenda a Lynn John yw Eirian, ac mae’n dal mewn cysylltiad clos â’i hen hardal.

Pinacl y diwrnod yn flynyddol yw’r oedfa hwyrol, pan ddaw ffrindiau a chydnabod i ymuno yn y canu ac i chwyddo’r côr.

Mrs Beti Thomas, o Eglwys Ebeneser fu’n cyflwyno’r rhannau arweiniol, a’r llywydd oedd y Parch Rhosier Morgan.

Yr anthem a ddewiswyd gan y pwyllgor ar gyfer eleni oedd 'Newyddion Braf' gyda’r gerddoriaeth wedi’i gyfansoddi gan J Glyndyrus Williams a’r geiriau o waith John Dafydd.

Diolchwyd i Claire, yr arweinyddes, am ei llafur yn ystod y rihyrsal olaf a’r gymanfa.

Diolchodd cadeiryddes y pwyllgor, Mrs Mair Phillips, i bawb oedd wedi bod yn ymwneud â’r digwyddiad mewn unrhyw fodd, ac i wragedd Blaenffos am baratoi cinio a thê ar gyfer y gynulleidfa.