CYNHALIWYD Eisteddfod Clybiau Ffermwyr Ifanc Ceredigion, un o brif atyniadau y ffermwyr ifanc yn eu calendar llawn o weithgareddau, yn ddiweddar.

Roedd y cystadlu yn cymryd lle ar ddwy noson ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid.

Enillwyd yr eisteddfod gan glwb Llanwenog, gyda 95 o farciau, gyda chlwb Pontsian yn ail gyda 86 o farciau a Felinfach yn drydydd gyda 85 o farciau.

Mererid Davies, cadeirydd y sir, oedd yng ngofal Seremoni y Gadair a’r Goron a chanwyd cân y seremoni gan Ffiona Henson o glwb Llanddeiniol a seiniwyd y Corn Gwlad gan John Jenkins o glwb Lledrod.

Trafodwyd y feirniadaeth gan y beirniad Karen Owen. Enillwyd y gadair gan Ceris James o glwb Mydroilyn gyda’i cherdd ar y testun ‘Gwawr’.

Rhoddwyd y gadair gan Bethan Roberts, Brenhines y Sir, a Dewi Jenkins, Ffermwr Ifanc y Sir, o waith Carwyn Davies o glwb Llanwenog. Mared Davies, Felinfach ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth y gadair a Megan Lewis, Trisant ddaeth yn drydydd.

Enillwyd y Goron gan Lisa Mai Jones o glwb Pontsian gyda’i stori fer ar y thema ‘Chwaraeon neu Gwledig’. Rhoddwyd y goron gan Mererid Davies, Cadeirydd y Sir, ac fe’i gwnaethwyd gan Arwel Jones, Llanarth. Rhian Evans, Felinfach ddaeth yn ail gydag Elliw Davies, Caerwedros yn drydydd.

Dyma restr o’r rhai a enillodd gwpanau’r Eisteddfod.

Parti Llefaru: Cwpan her Janet Morgan, Pant-Defaid – Llanwenog

Parti Unsain: Cwpan Coffa her parhaol Penlanlas Isaf – Pontsian

Meimio i Gerddoriaeth: Cwpan her Mared Rand Jones – Llangeitho

Sgets: Cwpan her parti drama Dyffryn Cletwr – Llanddewi Brefi

Unawdydd gorau: Cwpan her Mr a Mrs Gwyndaf James – Jay Snow, Troedyraur

Llefarydd gorau: Cwpan y diweddar Mr a Mrs Elfyn Owen – Rhian Evans, Felinfach

Côr: Cwpan Her y diweddar Arglwydd Geraint Howells – Caerwedros

Marciau uchaf yn y Gwaith Cartref: Cwpan her Heather Price, Esgereinon – Felinfach

Ail fuddugol yn yr Eisteddfod - Tlws Coffa Mr Eryl Jones, Mydroilyn - Pontsian

Clwb Buddugol: Tlws Teulu Hafod Iwan – Llanwenog

Cafwyd hefyd ganlyniadau y cystadlaethau canlynol – Llyfr Lloffion – 1. Mydroilyn; 2. Llanwenog; 3. Felinfach. Llyfr Trysorydd – 1. Llanwenog; 2. Troedyraur; 3. Llangwyryfon. Llyfr Cofnodion – 1. Llanwenog; 2. Felinfach; 3. Llanddeiniol.

Dyma ganlyniadau Eisteddfod nos Iau –

Dawnsio Gwerin – 1. Mydroilyn; 2. Caerwedros; 3. Felinfach.

Unawd Alaw Werin 26 neu iau – 1. Beca Williams, Talybont; 2. Rhys Griffiths, Penparc; 3. Heledd Besent, Mydroilyn. Meimio i Gerddoriaeth – 1. Llangeitho; 2. Llanwenog; 3. Mydroilyn. Cân Gyfoes – 1. Pontsian; 2. Llangeitho.

Canlyniadau Dydd Sadwrn –

Unawd 13 neu iau - 1. Cadi Williams, Talybont; 2. Lowri Davies, Caerwedros; 3. Sioned Fflur Davies, Llanwenog. Llefaru 13 neu iau – 1. Siwan George, Lledrod; 2. Glesni Morris, Llangwyryfon; 3. Siôn Evans, Felinfach. Unawd 16 neu iau – 1. Beca Williams, Talybont; 2.Elain Davies, Caerwedros; 3. Carys Evans, Llanwenog. Llefaru 16 neu iau - 1. Gwion Ifan, Pontsian; 2. Hanna Davies, Llanwenog; cydradd 3. Alaw Fflur Jones, Felinfach a Beca Jenkins, Pontsian. Unawd 21 oed neu iau – 1. Ianto Jones, Felinfach. Llefaru 21 neu iau - 1. Meleri Morgan, Llangeitho; 2. Gwenyth Richards, Pontsian; 3. Siriol Teifi, Pontsian. Unawd 26 neu iau – 1. Heledd Besent, Mydroilyn; 2. Rhys Griffiths, Penparc; 3. Iwan Davies, Llanddewi Brefi. Llefaru 26 neu iau – 1. Rhian Evans, Felinfach; 2. Elin Haf Jones, Llanwenog; cydradd 3. Heledd, Besent, Mydroilyn, Luned Mair, Llanwenog a Ceris James, Mydroilyn. Canu Emyn Nofis – 1. Lowri Davies, Caerwedros; 2. Catrin Reynolds, Troedyraur; cydradd 3. Richard Jones, Pontsian a Hanna Davies, Llanwenog. Unawd Offerynnol – 1. Jay Snow, Troedyraur; 2. Cerith Morgan, Llangeitho; cydradd 3. Gronw Downes, Talybont ac Elain Tanat Morgan, Talybont. Monolog Neu Ymgom Ysgafn – 1. Rhian Evans, Felinfach; 2. Meleri Morgan, Llangeitho; cydradd 3. Iwan a Guto, Llanddewi Brefi a Twm Ebbsworth, Llanwenog. Canu Emyn – 1. Elain Davies, Caerwedros; 2. Deiniol Organ, Troedyraur; cydradd 3. Ianto Jones, Felinfach a Rhys Griffiths, Penparc. Ensemble Lleisiol – 1. Talybont; 2. Llanddewi Brefi; 3. Mydroilyn. Parti Llefaru – 1. Llanwenog; 2. Caerwedros; 3. Felinfach. Unawd Sioe Gerdd - 1. Heledd Besent, Mydroilyn; 2. Rhys Griffiths, Penparc; 3. Beca Williams, Talybont. Parti Unsain – 1. Pontsian; 2. Caerwedros; 3. Llanwenog. Sgets - 1. Llanddewi Brefi; 2. Llangeitho; 3. Tregaron. Deuawd – 1. Mair a Catrin, Troedyraur; 2. Garin a Ioan, Tregaron. Stand-Up – 1. Cennydd Jones, Pontsian; 2. Guto Jones, Llanddewi Brefi; 3. Dafydd James, Troedyraur. Deuawd neu Driawd Doniol - 1. Guto, Iwan a Ll?r, Llanddewi Brefi; 2. Steffan a Dewi, Talybont; 3. Gethin ac Elin, Llanwenog. Côr cymysg - 1. Caerwedros; 2. Pontsian; 3. Llanwenog.

GWAITH CARTREF

Stori fer – 1. Lisa Mai Jones, Pontsian; 2. Rhian Evans, Felinfach; 3. Elliw Davies, Caerwedros Cerdd – 1. Ceris James, Mydroilyn; 2. Mared Davies, Felinfach; 3. Megan Lewis, Trisant. Cyfansoddi Alaw – 1. Heledd Besent, Mydroilyn; 2. Ianto Jones, Felinfach; 3. Nest Jenkins, Lledrod. Cywaith Clwb – 1. Llanwenog; 2. Mydroilyn; 3. Talybont. Portread o’ch arwr (26 oed neu iau) – 1. Luned Mair, Llanwenog; 2. Rhian Evans, Felinfach; cydradd 3. Mared Davies, Felinfach a Elen Davies, Troedyraur. Parodi ar eiriau unrhyw gân enwog (21 neu iau) - 1. Twm Ebbsworth, Llanwenog; 2. Meleri Morgan, Llangeitho; cydradd 3. Bleddyn McAnulty-Jones, Llangeitho a Siôn Evans, Felinfach. Creu cwis ar gyfer noson clwb (16 oed neu iau) – 1. Briallt Williams, Llanwenog; 2. Siwan George, Lledrod; 3. Elin Davies, Llanwenog. Neges drydar – 1. Glesni Thomas, Pontsian; 2. Ceris James, Mydroilyn; 3. Rhian Evans, Felinfach. Cyfansoddi Dawns Werin – 1. Carys Stephens, Mydroilyn; 2. Gwenan Davies, Mydroilyn; 3. Morys Ioan, Caerwedros. Ffotograffiaeth – 1. Gwyn Evans, Felinfach 2. Aeron Gwynne, Llangeitho; cydradd 3. Angela Evans, Tregaron a David Heath, Felinfach. Limrig – 1. Elen Lloyd-Jones, Pontsian; 2. Meleri Morgan, Llangeitho; cydradd 3. Elin Haf Jones, Llanwenog a Ffion Jones, Llangwyryfon. Celf – 1. Sioned Jones, Mydroilyn; 2. Ella Evans, Felinfach; cydradd 3. Ll?r Davies, Llanddewi Brefi a Hanna Jones, Mydroilyn. Dylunio ‘Geo Filter’ – 1. Carwyn Rees, Pontsian; 2. Llywelyn Miles, Felinfach; Steffan Nutting, Talybont. Prosiect Clwb – 1. Felinfach; 2. Llanwenog; 3. Llanddewi Brefi. Rhaglen Clwb – 1. Pontsian; 2. Caerwedros; 3. Felinfach.

Cloriannwyd y cystadlaethau gan y canlynol - Cerdd, Mr Huw Foulkes, Caerdydd; Llefaru,Mrs Ann Fychan, Abercegir; Adran Ysgafn, Mrs Nia George, Sir Benfro; Llên, Miss Karen Owen, Dyffryn Nantlle; Alaw Werin, Mr Dafydd Jones, Ystrad Meurig; Dawns, Mr Gethin Page; Caerfyrddin; Cywaith Clwb, Mrs Ffion Medi Lewis-Hughes; Celf, Miss Elonwy Evans; Ffotograffiaeth, Mrs Dwynwen Lloyd Llywelyn.

Y cyfeilyddion oedd Dr Gwawr Jones a Mrs Neli Jones. Llywydd anrhydeddus yr Eisteddfod oedd Mared Rand Jones, Llanfair Fach a chafwyd ganddi araith bwrpasol iawn a rhodd anrhydeddus i’r Mudiad.

Diolchwyd i brif noddwyr yr Eisteddfod eleni sef Siop Y Pethe, Teithiau Tango a Cambria Tours ac yn ogystal Banto Nadolig Theatr Felinfach. Cegin Cig Cymru oedd yn darparu'r bwyd.

Dymunwyd pob lwc i bawb a fydd yn cynrychioli Ceredigion yn Eisteddfod Cymru a fydd yn cael ei gynnal eleni yn Neuadd Y Brangwyn, Abertawe ar Dachwedd 19.