Cynhaliwyd noson wobrwyo Clwb Bowlio Rhydlewis yn ddiweddar pan gylfywnywd gwobrau a thlysau i nifer o aelodau am eu perfformiadau dros y tymor.

Ers ei sefydlu ym Mawrth 2004 mae'r clwb wedi bod yn llewyrchus gan ennill nifer o gystadleuthau sirol ac yna cynrychioli Ceredigion yn erbyn siroedd eraill Cymru yn Llandrindod.

Maen nhw hefyd wedi cynhyrchu pencampwr unigol Cymru, pâr unwaith a phedwarawd gorau Cymru ddwywaith.

Mae'r clwb wedi ennill Cyngrhair Ceredigion naw gwaith, chwech gwaith yn olynol, a mynd ymlaen i ennill dros Gymru ar ddau achlysur.

Mae pedwar wedi cael ei dewis i chwarae dros Gymru Hydref nesaf.

Mae'r clwb yn cwrdd bob nos Fawrth a Gwener o 7pm-10pm yn neuadd y pentref o Awst hyd Mai, a croeso i unrhyw aelod newydd ymuno, naill yn blentyn neu oedolyn.