Y Twrch Trwyth yw'r ail ddrama o drioleg T James Jones i'w llwyfannu gan Gwmni Theatr Felinfach. Y llynedd, cafodd perfformiad o Dyn Eira ganmoliaeth uchel, a gobeithir cael cymorth ariannol pellach i fynd a'r ddrama honno ar daith ledled Cymru. Bwriedir llwyfannu'r drydedd ddrama, Nest, yn 2003.

Yn Y Twrch Trwyth cawn gyfle i ymweld , chartref Charlie ac Annie Welsh yn Nanhyfer, Sir Benfro, rhwng gwyliau'r Pasg a'r Pentecost ar ddechrau nawdegau'r ganrif ddiwethaf. Mae'r ddau yn gorfod ymgodymu ag ymweliad cyntaf Ceri, eu merch, ar l iddi gael deng mlynedd o garchar am lofruddio ei phartner lesbiaidd pan oeddent yn cyd-fyw fel protestwyr ar Gomin Greenham.

Ers rhyw fis, bu'r Ifan enigmatic yn ymweld ,'r ardal er mwyn gwneud ymchwil ar dafodiaith y fro, ond mae Ben, cymydog i Charlie ac Annie, yn methu deall pam yr anfonwyd gogleddwr i blith pobol y 'Wes, wes'.

Yn l yr hen chwedl, ar lan afon Nyfer yr ymladdodd y Twrch Trwyth , milwyr Arthur. Mae'n debyg mai brenin wedi colli ei statws oedd y Twrch, a'i fod wedi'i droi'n fochyn fel cosb am bechu yn erbyn y duwiau. A byth oddi ar hynny, mae'r Twrch yn dychwelyd i geisio adfer ei frenhiniaeth, ac yn mynnu dial ar bawb sy'n ei wythwynebu.

Mae'r cynhyrchiad hwn yn nodedig am fod dau actor lleol, sef Arwyn Thomas a Jaci Evans yn cael y profiad o rannu'r llwyfan , thri actor proffesiynol adnabyddus, sef Llion Williams (C'mon Midfield) a Delyth Wyn ac Einir Sin (Y Palmant Aur) o dan gyfarwyddyd Huw Emlyn.

Bydd cyfle i weld Y Twrch Trwyth ar Fawrth 27/28 am 7.30yh - swyddfa docynnau, 01570 470697.