Cn gan ddau ffrind 18 oed o Flaenffos a enillodd gystadleuaeth Cn i Gymru 2005 - a hynny am gn a ysbrydolwyd gan eiriau mamgu un o'r awduron.

Mi Glywais I, a gyfan- soddwyd gan y ddau ddisgybl chweched dosbarth Ysgol y Preseli, Dafydd Jones a Guto Vaughan ac a berfformiwyd gan Rhydian Bowen Phillips, dderbyniodd y nifer fwyaf o bleidleisiau yn y gystadleuaeth.

Daeth y gn i'r brig yn rownd derfynol y gystadleuaeth a gynhaliwyd Ddydd Gwyl Dewi yng Nghanolfan Casnewydd ac a ddarlledwyd yn fyw ar S4C.

Bydd y tm buddugol yn rhannu'r brif wobr o £10,000 a'r gn yn cystadlu yn yr Wyl Ban-Geltaidd a gynhelir yn Nhr L, Iwerddon fis Ebrill.

Cofio geiriau ei famgu tra'n sn am ei gwr, tad-cu Guto, oedd yr ysbrydoliaeth tu l i eiriau'r gn, yn l Guto. "Dwi'n hapus iawn - mae ennill yn sicr wedi rhoi'r hyder i mi barhau i gyfansoddi. Ar y noson, 'roedd yr awyrgylch tu l i'r llwyfan yn wych ac yn llawn sbort."

Ychwanega, "Dwi ddim yn siwr sut y byddai'n gwario'r wobr, ond dwi'n meddwl y bydd siop Playstation Aberteifi yn weddol wag am yr wythnosau nesaf!"

'Roedd perfformiwr y gn, y cyflwynydd a'r canwr Rhydian Bowen Phillips ar ben ei ddigon. "Roedd yn brofiad anhygoel. Gyda'r holl gefnogaeth oedd yno ar y noson, mae'n rhaid bod pentref Blaenffos yn wag ar Ddydd Gwyl Dewi! Dwi'n falch iawn dros y ddau ohonyn nhw gan eu bod yn fechgyn mor ffein, a hefyd fe wnaeth tad Dafydd, Richard Jones, ennill yr union gystadleuaeth ddeng mlynedd yn l gyda'r gn Yr Ynys Werdd a ganwyd gan Gwenda Owen.

Meddai Meirion Davies, comisiynydd adloniant a digwyddiadau S4C: "Eleni fe dderbynion ni fwy o geisiadau nag erioed o'r blaen yn y gystadleuaeth, gyda'r ffaith bod gwobr ariannol i'r ail a'r drydedd gn yn amlwg wedi bod yn atyniad poblogaidd. 'Roedd y llinellau ffn yn boeth drwy gydol y noson gyda'r gwylwyr am y gorau i ffonio i mewn gyda'u pleidleisiau. Edrychwn ymlaen i glywed y caneuon a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn cyfrannu at ein diwylliant o ganeuon Cymraeg poblogaidd."

Yn ail yn y gystadleuaeth eleni, gan dderbyn siec o £3,000 oedd y gn Mewn Ffydd gan Elfed Morgan Morris a Lowri Watcyn Roberts, a berfformiwyd gan Elfed o Ddeiniolen. Y gn Enfys Bell, gyfansoddwyd a pherfformiwyd gan Vanta gipiodd y drydedd wobr o £2,000.

Mae Guto a Dafydd wedi bod yn ffrindiau mawr ers iddyn nhw fod yn yr ysgol feithrin gyda'i gilydd. Ac mae'r ddau yn aelodau o'r grwp 'Garej Dolwen' gyda'r grwp wedi ei enwi ar l y lle ma' nhw'n ymarfer (yn y garej!) Uchelgais Guto yw bod yn ddyn camera a gweithio ar ffilmiau mawr yn Hollywood. Petai'n gallu ysgrifennu cn i unrhyw artist byddai'n dewis Dewi Pws oherwydd ei berfformiadau unigryw ar lwyfan! Ei wely a'i gitr fas bydda'i Guto yn methu byw heb-ddynt ar ynys bellennig!

Dylanwadau cerddorol Dafydd yw roc a rl o'r 50au fel Buddy Holly a Richie Valance. Mae'n gerddor amryddawn yn chwarae gitr, drymiau a phiano. Uchelgais Dafydd yw bod yn seren Roc a Rl a byw mewn carafn enfawr!

Yr oedd wncwl Dafydd, Wyn Jones o Stiwdio Fflach, Aberteifi yn llawn edmygedd o'r bois. "Mae hwn yn orchest ffantastig ac mae pawb mor hapus drostynt. "Mae cerddoriaeth yn bwysig iawn i'r ddau sy'n fishi yn ysgrifennu, recordio a pherfformio cerddoriaeth gwreiddiol," ychwanegodd.

A chreuodd y gamp dipyn o fwrlwm yn Ysgol y Preseli sydd wedi bod yn gefnogol iawn i'r ddau. Yr oedd y prifathro, Martin Lloyd ymysg dau llond bws o gefnogwyr a deithiodd i weld y rownd derfynol. "Rydym yn ymfalcho yn fawr iawn yn llwyddiant Dafydd a Guto ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt yn y gystadleuaeth Pan Geltaidd yn Trali."