Bu nifer o newidiadau trefniadol yn Eisteddfod Llandudoch eleni, ac fe ddaeth yn amlwg iddynt dalu ffordd.

Yn y lle cyntaf, trefnwyd dwy noson wobrwyo ar gyfer y cystadlaethau celf a'r cystadlaethau llenyddol yn yr wythnos yn arwain at yr eisteddfod, a bu'r ddwy yn ddigwyddiadau llwyddiannus ynddynt eu hunain. Bu gwaith celf y plant yn cael ei arddangos yn Oriel Llandudoch am dros wythnos, gan roi cyfle i gynulleidfa ehangach o lawer i'w gweld.

Yn y noson lenyddol, yn ogystal chlywed canlyniadau'r cystadlaethau, cafwyd Talwrn rhwng tm Crymych a thm o Landudoch, gyda Dic Jones yn cymryd at waith y Meuryn. Wedi gornest glos a difyr, Llandudoch a orfu o un pwynt.

Bu cynnydd mawr yn nifer y cystadleuwyr llwyfan lleol eleni, wedi diffinio dalgylch yr eisteddfod yn fwy clir. Ar un cystadleuaeth, cafwyd 18 yn cystadlu, ac 'roedd 10 a mwy yn ymgiprys yn gyffredin. Bu'r safon gydol y dydd yn gyson uchel, a braf oedd gweld cynulleidfa niferus yn bresennol i werthfawrogi'r cyfan.Y beirniaid a fu wrthi'n brysur oedd Rhiannon Lewis, Llambed a Trystan Lewis, Deganwy (cerdd); Owenna Davies, Ffostrasol (llefaru); Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, Talybont (lln) a Rhiannon Ainsworth, Llandysul (lln plant); Oriel Gelf Llandudoch (celf). Cafodd pob un ohonynt eu plesio'n fawr gyda'r safon a'r cystadlu - "Mae hi'n chwip o eisteddfod," meddai Trystan Lewis.

Croesawyd yn l am y drydydd flwyddyn meistr penigamp ar y piano, Wyn Hyland, yn enedigol o Aberteifi ond yn awr yn byw ar gyrion Llundain.

Un o uchafbwyntiau cystadlu'r noson oedd cystadleuaeth Cr Llandudoch 2005. Derbyniwyd nawdd gan Mr Ian Gollop i ail godi'r gystadleuaeth yma a da yw dweud bod hyn wedi llwyddo gyda Chor Crymych a'r Cylch yn dod i'r brig ac yn ennill £1,000; yn ail ddaeth Cr Godre'r Garth, Pontypridd ac yn drydydd Cr Meibion Blaenporth. 'Roedd y neuadd dan ei sang ar gyfer y gystadleuaeth hon, ac mae hen edrych ymlaen at ei gweld yn datblygu'n gystadleuaeth o bwys yng nghalendrau nifer cynyddol o gorau.

Enillwyd cadair yr Eisteddfod gan Terwyn Tomos, Llandudoch, am ei gerdd ar y testun Eiliadau. Yn enedigol o ardal Bwlchygroes, Penfro, hon oedd ei gadair eisteddfodol gyntaf - ef hefyd enillodd y Tlws Drama yn yr eisteddfod.

Cipiwyd Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc gan Gwawr Jones, Drefach, Llanybydder. Dyma gystadleuaeth o safon aruthrol o uchel, a'r beirniad yn datgan y buasai wedi gallu gwobrwyo nifer o'r rhai a gystadlodd. Disgybl chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Llambed yw Gwawr, a chyflwynodd gasgliad o gerddi a stori fer arbennig i'r gystadleuaeth. Cafodd y gynulleidfa gyfle i werthfawrogi darn ohoni wrth iddi gael ei darllen gan Manon Volk yn ystod y seremoni wobrwyo.

Pleser oedd cael croesawu enillydd y gystadleuaeth cyfansoddi emyn-dn ar gyfer priodas - geiriau gan T Graham Williams, Cwm Tawe, enillydd y gystadleuaeth cyfansoddi geiriau i emyn priodas 2004 - sef Mandy Williams, Rhoshill, a pherfformiwyd yr emyn gan Siwan Thomas, Iwan Davies, Rhys Davies ac Elis Griffiths - diolch iddynt am eu gwaith.

Canlyniadau Lleol, llefaru dan 6: 1, Ffion Adams-Lewis, Aberteifi; 2, Esyllt Thomas, Eglwyswrw; =3, Harry Hickling-Baker, Llandudoch a Heledd Fflur Evans, Eglwyswrw. Unawd: 1, Harry Hickling- Baker; 2, Esyllt Thomas; 3, Gemma Beavis, Cilgerran. Llefaru 6-9: Ffion Mai Rees, Brynberian; 2, Marged Elen Rees, Brynberian; 3, Amba Janiurek, Llandudoch. Unawd: Marged Elen Rees; 2, Amba Janiurek; 3, Ffion Mai Rees. Llefaru 9-12: 1, Caitlin Warner, Llandudoch; 2, Christopher Gow, Llandudoch. Unawd: 1, Amy Daley, Llandudoch; 2, Maeve Wells, Llandudoch. Grwp llefaru dan 12: Parti Sioned, Llandudoch. Parti/Cr dan 12: Ysgol Llandudoch. Dyfarnwyd Gwobr Nantypele (rhoddedig gan Norman a Pam High) am y perfformiad llwyfan gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau lleol i Marged Elen Rees, Brynberian. Agored, llefaru dan 6: 1, Rhys Davies, Cwmsychpant; 2, Elisa Evans, Adpar, Castellnewydd Emlyn. Unawd: 1, Esyllt Thomas; 2, Rhys Davies. Llefaru 6-9: 1, Lowri Elen Jones, Llanbedr pont Steffan; 2, Carwyn Hawkins; 3, Sioned Thomas, Rosebush. Unawd: 2, Sioned Thomas; 3, Lowri Elen Jones. Dyfarnwyd Gwobr Calon Ifanc Llandudoch am y perfformiad llwyfan gorau yn yr holl gystadlaethau dan 9 oed i Marged Elen Rees. Llefaru 9-12: 1, Heledd Hawkins, Ciliau Aeron; 2, Mared Fflur, Rosebush; 3, Osian Evans, Castellnewydd Emlyn. Unawd: 1, Mared Fflur; 2, Osian Evans; =3, Meleri Davies, Cwmsychpant a Heledd Hawkins. Alaw werin dan 12: 1, Meleri Davies; 2, Cerian Jones, Talgarreg; =3, Cerian Haf a Mared Fflur. Canu emyn dan 12: 1, Marged Elen Rees; 2, Lowri Elen Jones; 3, Cerian Jones. Unawd piano dan 12: 1, Heledd Mair Griffiths, Aberaeron; 2, Sabrina Jenkins; 3, Ffion Edwards, Maenclochog. Unawd offeryn cerdd dan 12: 1, Heledd Mair Griffiths; 2, Ffion Haf Phillips, Dinas; 3, Tomos Davies, Aberystwyth. Deuawd dan 12: 1, Marged Elen Rees a Mared Harries. Dyfarnwyd Gwobr Dennis a Pat Jones am y perfformiad llwyfan gorau gan unigolyn yn yr holl gystadlaethau dan 12 i Heledd Mair Griffiths. Llefaru 12-16: 1, Sian Davies, Llandudoch; 2, Angharad Edwards, Maenclochog; 3, Delun Gibby, Maenclochog. Unawd: 1, Iwan Davies, Llandudoch; 2, James Blundall, Crymych; 3, Delun Nia, Maenclochog. Unawd alaw werin 12-16: 1, James Blundall; 2, Delun Nia; =3, Iwan Davies ac Angharad Edwards. Canu emyn 12-16: 1, Iwan Davies; 2, Delun Nia; =3, Angharad Edwards a James Blundall. Unawd piano 12-16: 1, Gweirydd Davies, Hermon, Cynwyl; 2, Carys Davies, Aberystwyth; =3, Ellen Mason, Arberth ac Iwan Davies. Unawd offeryn cerdd 12-16: 1, Ellen Mason; 2, Iwan Davies. Dyfarnwyd Gwobr Merched y Wawr Llandudoch am y perfformiad llwyfan gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau 12-16 i Iwan Davies, Llandudoch.

Parhad Tudalen 22