Cynhaliwyd noson o hel atgofion gan gyn-aelodau Aelwyd yr urdd Aberporth a’u ffrinidau yng Ngardd y Nos ar y pedwaredd ar ddeg o Fai. Roedd y bwyd yn arbennig o flasus a’r hanesion yn ddiddorol iawn.

Pwrpas y bwyd a’r cloncan oedd codi arian at yr apel ac fe fu’r noson yn llwyddiannus iawn. Diolch am bob cefnogaeth.

Y digwyddiad nesaf er mwyn yr apel fydd Gwyl Flodau yn yr Hen Gapel Aberporth o ddydd Gwener 29 Mai tan ddydd Sul 31 Mai. Bydd y drysau ar agor o 10.30am tan 6.00pm dydd Gwener a dydd Sadwrn ac o 1.00pm tan 6.00pm dydd Sul. Dewch gyfeillion oll!

Flower Festival A flower festival will be held in Hen Gapel, Aberporth from Friday May 29 to Sunday May 31. Doors will open at 10.30amto 6.00pm on Sunday.

During the festival Mrs Mary Bott will be doing a sponsored silence! All are welcome. Proceed towards the Eisteddfod yr Urdd 2010 appeal fund, Aberporth.