Lansiwyd rhan gyntaf strategaeth uchelgeisiol newydd Agorwch y Drysau yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Eisteddfodau Cymru.

Mae'r cynllun yn ymateb i her yr oes, gan gynnig cymorth ymarferol i bwyllgorau eisteddfodau lleol fedru cynllunio i’r dyfodol.

Yn yr Hydref, cynhelir cyfres o sesiynau panel arbenigol bob mis dros Zoom o dan y teitl Mentro Trwy Fentora, fydd yn gyfle i glywed gan drefnwyr digwyddiadau llwyddiannus eleni, yn cynnwys Eisteddfod AmGen, Eisteddfod T a Gŵyl Tafwyl.

Hefyd bydd cyfraniadau gan unigolion sy’n cynrychioli partneriaid cenedlaethol y gymdeithas wrth gyflwyno ystod eang o bynciau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, hawliau, materion technegol, cyfathrebu, codi arian a meddwlgarwch.

Y bwriad yw magu hyder, creu egni o’r newydd, diogelu safonau cystadlu a sicrhau cynulleidfaoedd i’r dyfodol.

Cynhelir y sesiynau ar y trydydd nos Iau o’r mis am 7.30pm gan ddechrau ar Fedi 23 hyd Tachwedd 25.

Cynigir y sesiynau yn rhad ac am ddim i aelodau a chyfeillion y pwyllgorau lleol, diolch i gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill sy’n cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd, Mentrau Iaith, Cymunedau Digidol Cymru, Bro 360 Menter Caerdydd, PRS, Merched y Wawr, AM, S4C a Cymru FM.

O Hydref 4, bydd y gymdeithas hefyd yn cydweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru ar gyfres o chwe chwrs awr o hyd ar brynhawniau Llun er mwyn helpu’r rhai sy’n llai hyderus i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol, dysgu am hygyrchedd ar-lein yn ogystal â phwysigrwydd iechyd a lles.

I’r sawl sydd am wybod sut mae paratoi podlediad neu straeon digidol, all fod yn ddefnyddiol wrth rannu straeon yn ymwneud â threfnu eisteddfod yn lleol, byddwn yn cynnig dwy sesiwn awr o hyd fin nos am 7.30pm o Dachwedd 15-22.

Bydd angen cofrestru o flaen llaw oherwydd disgwylir y bydd cryn ddiddordeb yn y sesiynau.

Yn gynnar yn 2022 mae’n fwriad i lansio ail gam y strategaeth. Bydd Sbardun Steddfota yn canolbwyntio ar briod waith yr eisteddfodau: cyfansoddi, perfformio a beirniadu ayb. Y nod yw parhau i ddatblygu sgiliau, codi safonau a chreu llwybr cystadlu ar draws llwyfannau Cymru.

Dywedodd Megan Jones Roberts, cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: “Mae angen yr eisteddfodau lleol ar Gymru benbaladr i gadw’n traddodiad diwylliannol yn fyw. Y gobaith yw y bydd yr holl gynlluniau yma’n hwb i’r cannoedd o wirfoddolwyr wrth i bethau ddychwelyd i’r drefn arferol y flwyddyn nesaf.

"Mewn cyfnod o warchod ein talentau cynhenid, ein diwylliant a’n hiaith, ein blaenoriaeth yw ail blannu a thocio’r winllan er mwyn i gynulleidfaoedd unwaith eto fedru cyd-flasu ffrwyth ein heisteddfodau cymunedol."