Mae llyfr cyntaf Fflur Dafydd yn y Gymraeg ers deng mlynedd yn mynd â hi nôl i'w phlentyndod yn Llandysul a Cheredigion.

Mae 'Lloerganiadau' (Y Lolfa) yn gyfrol o atgofion personol am blentyndod ac arddegau yr awdures yn ardal Ceredigion dan olau’r lloer, ei chyfrol Gymraeg gyntaf ers cyhoeddi 'Awr y Locustiaid' yn 2010.

Datblygwyd ei nofel 'Y Llyfrgell' (2009) fel ffilm boblogaidd yn 2016.

Meddai Fflur: “Cyfrol o ysgrifau personol yw hi – nid hunangofiant fel y cyfryw, ond yn hytrach lloer-gofiant – cyfnodau mewn tywyllwch neu olau leuad sy’n gefnlen i bob un profiad neu stori.

"Mae’n amrywio o drafod profiadau plentyn ar goll mewn tywyllwch a merch yn ei harddegau yn mynd ar antur gyda’i chariad i mam flinedig ar ei thraed yn bwydo trwy’r nos.

"Mae ’na hefyd ysgrifau am ofodwragedd, am ffilmiau, am bartïon gwyllt ac am gyfeillgarwch. Nid oes llawer o lyfrau ffeithiol greadigol yn y Gymraeg am fywydau cyffredin menywod a’u perthnasau â phobl eraill.

“Mae fy rhieni wedi symud o Landysul bellach, felly roedd hi’n teimlo fel diwedd cyfnod ac roeddwn yn teimlo rhyw ysfa i gofnodi hynny.

"Rhywsut fe blethodd fy ymchwil am y lloer (ar gyfer sioe Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020) gyda fy atgofion personol, gan ganiatáu i mi edrych ar gyfnodau gwahanol yn fy mywyd i trwy gyfrwng cyfnodau’r lloer. Mae’r syniad o gofnodi fy mhlentyndod wedi bod yng nghefn fy meddwl ers blynyddoedd.”

Roedd Fflur Dafydd hefyd wedi ysgrifennu’r sioe ‘Lloergan’ ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron – am ddynes o Dregaron yn mynd i’r lleuad yn 2050.

Nid yw’r llyfr yma yr un peth â’r sioe o gwbl ond mae’n sicr yn gosod cyd-destun. Yn sgil cyfyngiadau diogelwch y Coronafeirws, gohiriwyd yr Eisteddfod ac felly’r sioe, gyda’r gobaith y bydd y ddau yn digwydd blwyddyn nesaf.

Mae Fflur Dafydd yn awdur, sgriptwraig a cherddor ar ei liwt ei hun. Enillodd ei hail nofel, 'Atyniad', y Fedal Ryddiaith yn 2006, ac fe gipiodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel 'Y Llyfrgell' yn 2009, y troswyd hi’n ffilm yn 2016.

Enillodd ei nofel Saesneg, 'Twenty Thousand Saints', wobr Gŵyl y Gelli am Awdur Mwyaf Addawol 2007. Hi yw dyfeisydd a sgriptwraig y gyfres boblogaidd 'Parch' (S4C); ac mae hefyd wedi sgriptio cyfresi eraill megis '35 Awr a 35 Diwrnod', gan dderbyn sawl enwebiad BaftA Cymru.

Mae cyfres newydd gan Fflur Dafydd yn cael ei recordio ar hyn o bryd, a bydd 'Yr Amgueddfa' ar S4C yn y gwanwyn.

Mae 'Lloerganiadau' gan Fflur Dafydd ar gael nawr (£9.99, Y Lolfa).