Mae tafarn gymunedol Tafarn Sinc wedi goroesi cyfnod arbennig o anodd ers mis Ebrill.

Yn adroddiad diweddaraf y bwrdd, nodir yr addasiadau sydd wedi cael eu gwneud er mwyn ymdopi â gofynion Covid-19 ynghyd â dwy wobr enillwyd yn yr un cyfnod.

Er mwyn rheoli lledaeniad Covid-19 roedd yn rhaid i Dafarn Sinc gau rhwng Mawrth 20 a Gorffennaf 13. I ddechrau, dim ond cael bwyd a diod y tu all a ganiatawyd ond ar ôl ychydig wythnosau y caniatawyd i bobl fwyta bwyd a diod y tu mewn ond roedd y niferoedd yn gyfyngedig.

Er mwyn sicrhau bod staff a’r cyhoedd yn ddiogel, mae'r bwrdd wedi cyflwyno'r nifer o fesurau diogelwch gan gynnwys sgriniau o amgylch man gweini'r bar a gorsafoedd glanweithdra dwylo.

Hefyd mae ardaloedd eistedd wedi cael eu tapio i ffwrdd er mwyn sicrhau pellter o 2m ac mae staff yn gwisgo fisorau a masgiau. Mae sustem un ffordd i mewn ac allan o'r dafarn wedi'i marcio ag arwyddion.

Mae'r bwrdd yn dweud ei fod yn ddiolchgar iawn i'r holl aelodau staff sydd wedi gweithio'n galed iawn ers ailagor.

"Maent wedi bod yn barod i weithio yn y bar a'r gegin i sicrhau bod y gwasanaeth yn parhau i fod yn uchel. Mae'r gwaith tîm hwn yn dangos i'r cyfarwyddwyr fod yr holl staff yn hapus yn eu gweithle a chyda nodau ac amcanion y bwrdd ar gyfer Tafarn Sinc," meddai'r adroddiad.

Ers ailagor bu masnach yn rhagorol ac ar ben hynny mae'r dafarn wedi derbyn dwy wobr: un o’r pum lle gorau i fwyta allan gan y papur newydd 'Wales on Sunday' a dewis teithwyr Tripadvisor 2020 - mae hyn yn golygu bod Tafarn Sinc yn y 10 y cant o atyniadau gorau ledled y byd.

Mae'r bwrdd hefyd yn diolch i Hefin Wyn am gael plac o waith Dai Llewelyn (arlunydd) er cof am Thomas Rees (Mynachlog-ddu) a'i gyfraniad yn ymwneud â Therfysgoedd Beca.

Mae'r plac bellach yn ei le, ond gohiriwyd y gosodiad hyn oherwydd cyfyngiadau cloi a’r dafarn ar gau rhwng mis Mawrth ac Awst.

Mae masnach ers agor wedi bod yn llawer gwell na'r disgwyl. Er gwaethaf bod ar gau am bedwar mis mae'r balans banc yn llawer iachach nag yr oedd 12 mis yn ôl, meddai'r adroddiad.

Mae'r bwrdd yn diolch i'r holl gyfranddalwyr am eu cefnogaeth yn ystod yr amseroedd anodd.