Mae gofyn am siaradwyr Cymraeg!

Allech chi wirfoddoli i fod yn gyfaill ar gyfer Age Cymru Dyfed?

Mae gan tîm Cydlynwyr Cyfeillio Cysylltu Bywydau rai pobl hŷn Cymraeg eu hiaith a fyddai’n hoffi cael cwmni a siarad yn eu mamiaith.

Oherwydd cyfyngiadau Covid, bydd y cyfeillio’n digwydd ar y teleffon ar y cychwyn, ond wrth i bethau wella y gobaith yw cychwyn cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Lynne Meredith ar 07572630797 neu e-bost lynne.meredith@agecymrudyfed.org.uk