Mae distyllfa In the Welsh Wind yn dathlu ei hail wobr busnes arwyddocaol, ar ôl cael ei chydnabod fel y Busnes Gwledig Newydd Gorau yng Nghymru yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru yn ddiweddar.

Sector sy’n prysur dyfu yng Nghymru yw’r sector distyllu sydd wedi gweld nifer o ddistyllfeydd yn agor dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae distyllfa In The Welsh Wind yn Nhan-y-groes eisoes yn sefyll allan. Mae nifer o’r jiniau sy’n cael eu datblygu a’u distyllu gan y ddistyllfa wedi derbyn gwobrau cenedlaethol a rhyngwladol.

Trwy ennill gwobr ddiweddaraf, cydnabyddir y weledigaeth a’r gwaith caled y mae’r tîm yn ei wneud er mwyn gwthio’u busnes yn ei flaen. Dilyna Wobr Busnesau Newydd Cymru yn dynn ar sodlau’r Great Britain Entrepreneurs Awards ym mis Medi 2020 lle derbyniodd perchnogion y ddistyllfa, Alex Jungmayr ac Ellen Wakelam, Wobr Entrepreneur Bwyd a Diod Cymru.

Dywedodd Ellen Wakelam, cydberchennog a chyfarwyddwr In the Welsh Wind: “Rydym wrth ein boddau o ennill y gwobrau hyn. Byddai pob un o’r busnesau eraill ar y rhestr fer yng nghategori’r Busnes Gwledig newydd wedi bod yn enillwyr teilwng. Allwn ni ddim credu ein bod ni wedi ennill, a theimlwn anrhydedd mawr o gael ein cydnabod fel hyn."

Mae In the Welsh Wind yn gwneud ‘gwirodydd brand wedi’u teilwra’ i dros 25 o wahanol fusnesau. Caiff Tenby Dry Gin ei ddatblygu a’i ddistyllu gan In The Welsh Wind gyda pherchennog y brand Pembrokeshire Gin Co, ac mae wedi ennill dim llai nag wyth gwobr.

Yn ogystal, datblygodd y ddistyllfa’r Declaration Gin – sef gwirod cyntaf cyn gapten criced Lloegr, Michael Vaughan a’r tîm yn Declaration Drinks. Yn ddiweddar, derbyniodd Declaration Gin ddwy seren yng ngwobrau Great Taste.

Yn ogystal â gwneud jin a rỳm i fusnesau eraill, lansiodd In The Welsh Wind ei jin sych ‘Nodweddiadol’ ei hun ym mis Gorffennaf 2020. Mae’r busnes hefyd yn gweithio gyda ffermwyr lleol i dyfu barlys ar gyfer chwisgi Cymreig o’r ‘grawn i’r gwydr’.

Bwriad y ddistyllfa yw sefydlu’r bragdy cyntaf yng Nghymru ers dros 100 mlynedd. Bydd grawn a dyfwyd yng nghaeau Gorllewin Cymru’n cael eu bragu yng Nghymru yn hytrach na Lloegr, ac yn cael eu distyllu a’u haeddfedu yng Ngorllewin Cymru.

Er mwyn cael gwybod mwy am Ddistyllfa In The Welsh Wind, eu jin a’u prosiect chwisgi, ewch i’w gwefan inthewelshwind.co.uk .