Mae casgliad o eirfa defnyddiol yn ymwneud â’r pandemic coronafeirws nawr ar gael ar flaen eich bysedd.

Er mwyn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi casglu ynghyd rhai o’r termau newydd sydd wedi’u bathu yn ystod cyfnod coronafeirws.

Mae cyfnod y pandemig wedi bod yn gyfnod o newid arferion, ac yn anochel wrth gyfathrebu negeseuon a chyfarwyddyd allweddol, mae geiriau newydd wedi cael eu bathu a’u safoni yn rhan o iaith bob dydd. Mae’r geiriau newydd hyn yr un mor bwysig yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg.

Er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r termau Cymraeg newydd, mae’r cyngor wedi mynd ati i gasglu rhai o’r termau hyn, a’u dwyn ynghyd mewn un dogfen ‘Terminoleg Covid-19’. Gellid chwilota am eiriau penodol yn y ddogfen Cymraeg i’r Saesneg, neu fel arall yn y ddogfen Saesneg i’r Gymraeg.

Dywedodd Carys Morgan, swyddog polisi iaith y cyngor: “Mae’r ddogfen wedi’i llunio er mwyn sicrhau bod y termau newydd hyn yn cael eu defnyddio’n gywir ac yn gyson yn y Gymraeg, a’u bod yn dod yn rhan o eirfa naturiol iaith bob dydd siaradwyr Cymraeg.

"Wrth rannu’r ddogfen yn eang, rydym yn gobeithio bydd unigolion a busnesau ar draws Ceredigion yn gwneud defnydd o’r casgliad geirfa, fel bod negeseuon allweddol at sylw’r cyhoedd yn cael eu dangos yn ddwyieithog o fewn y sir.”

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, arweinydd y cyngor: “Yn ystod cyfnod anodd y pandemig dwi’n falch i adrodd bod y Cyngor wedi llwyddo i gyfathrebu ein negeseuon allweddol yn ddwyieithog, yn y Gymraeg ac yn y Saesneg.

"Mae hyn yn ddisgwyliedig gan drigolion sir fel Ceredigion. Yn ogystal, mae cael cyfle i glywed a gweld y Gymraeg yn bwysig i’r nifer cynhyddol o ddysgwyr sydd yn ein mysg.

"Rydym yn falch iawn o’r cydweithio rhwng y tîm cyfathrebu a’r tîm cyfieithu corfforaethol, sydd wedi gweithio’n galed i ddatblygu a chwilio am ystod o eirfa newydd sydd wedi dod yn fwy cyfarwydd i ni gyd fel mae’r pandemig yn mynd rhagddo. Mae defnyddio’r termau newydd hyn yn profi bod y Gymraeg yn iaith gyfoes, sy’n fyw ac ar waith yng Ngheredigion heddiw.”

Gellir lawr lwytho copi o’r ddogfen ‘Terminoleg Covid-19’ o wefan y cyngor:

Cymraeg i’r Saesneg: ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/adnoddau/

Saesneg i’r Gymraeg: ceredigion.gov.uk/resident/coronavirus-covid-19/resources/