Yn yr eisteddfod ddigidol gyntaf erioed cyhoeddwyd mai Nest Jenkins yw Prif Ddramodydd Eisteddfod T – cystadleuaeth ar-lein yr Urdd.

Daw Nest yn wreiddiol o Ledrod ger Tregaron, ond bellach mae hi ar ei thrydedd blwyddyn yn astudio’r gyfraith a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ei gobaith yn y dyfodol yw mentro i fyd darlledu, gan ddilyn cwrs ôl-radd mewn newyddiaduraeth darlledu y flwyddyn nesaf.

Mae Nest yn unigolyn prysur a gweithgar. Bu’n gyflwynydd radio ar Xpress Radio, gan gyd-gyflwyno dwy sioe lwyddiannus ar yr orsaf a chafodd un ei chynnwys ar Radio Cymru am gyfnod.

Bu hefyd yn llywydd y Gym Gym, sef Cymdeithas Gymraeg y brifysgol. Gyda’i thrydedd blwyddyn wedi’i thorri’n fyr o achos y pandemig, mae Nest a’i ffrind, Jacob, wedi dechrau podlediad newydd o’r enw ‘Cracio’r Corona’.

Mae’n un sy’n mwynhau eisteddfota ac wedi dod i’r brig yn genedlaethol am ganu’r delyn, piano a llefaru sawl tro. Mae’n aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal ac wedi bod yn hyfforddi’r parti llefaru ers dwy flynedd.

Datgelwyd mai Nest oedd yr enillydd mewn seremoni arbennig a ddarlledwyd yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru, gyda’r beirniad, Hanna Jarman, a'r tri chystadleuydd terfynol yn ymuno ar sgriniau o’u cartrefi.

Roedd Hanna Jarman wedi mwynhau’r elfen o fenyw gryf oedd yn y gwaith buddugol.

“Dwi’n ffan mawr o gymeriadau benywaidd ‘anhoffus’, menywod sy’n herio sut ma’ menyw fod i fihafio, siarad a theimlo. Roedd y darn yn soffistigedig iawn. Cymeriad cryf a doniol.”

Mae’r Eisteddfod T arloesol, lle mai ar-lein mae’r holl gystadlu, ar ei hail ddiwrnod o ddarlledu ar ôl diwrnod gorlawn a llwyddiannus ddoe.

Mae Nest yn derbyn tlws wedi ei greu yn arbennig gan y cerflunydd Ann Catrin. Yn ail mae Delyth Evans o Silian ger Llanbedr Pont Steffan ac yn drydydd mae Sion Wyn Evans o Felinfach, ger Llanbedr Pont Steffan.

MHyd yn hyn, mae 4,000 o gystadleuwyr wedi cystadlu mewn dros 80 o gystadlaethau, gyda mwy o gystadlaethau byrfyfyr yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos.

Mae modd ymuno yn yr hwyl, ar deledu, radio ac ar-lein a bydd canlyniadau a gwybodaeth ar wefan s4c.cymru/urdd ac ar gyfryngau cymdeithasol yr Urdd gyda’r hashnod #EisteddfodT.