MAE papur bro de orllewin Ceredigion wedi mentro ar-lein am y tro cyntaf ac yn barod i gyrraedd haen newydd o ddarllenwyr.

Mae’r Gambo eisoes yn cael ei bostio i danysgrifwyr dramor, yn ogystal â’r rhai dros y ffin.

Nawr trwy help Bro360 a Golwg mae ar gael i'w ddarllen ar bro.360.cymru/2020/gambo-2020/

Meddai golygydd mis Mai, Carol Byrne Jones: "Deallaf fod Y Gambo wedi ymddangos mewn sawl ffurf papur o’r blaen. Ond dyma’r tro cyntaf i ni fentro cyhoeddi yn ddigidol, trwy help Bro360 a Golwg.

"Mae pawb yn ymwybodol taw anawsterau'r pla sydd yn ein gorfodi i wneud hyn nawr, ond pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd yn y dyfodol?

"Yn y cyfamser, ceisiwn sicrhau bod newyddion a hanesion ein hardal yn cael eu lledu a’u cadw fel cofnod o fywyd ein cymdeithas yn ystod y cyfnod anodd yma."

Eglurodd y golygydd fod nifer o bobl ifanc a'u teuluoedd wedi cyfrannu at y rhifyn diweddaraf a'r gobaith yw cyrraedd darllenwyr newydd ar y we.

"Dywed rhai bod dim llawer yn digwydd nawr; ond ym mhob cymuned mae ‘na rywbeth o ddiddordeb i rywun , rhywle – achos i ddathlu, i gydymdeimlo, i longyfarch, i rannu profiad – pethau bychan efallai, ond y manion yma sy’n bwysig yng ngwead ein cymdeithas," meddai Mrs Jones.

"Gyda’r dechnoleg newydd, gallwn anfon cipolwg o’n cymuned dros y byd i gyd! Mae’r Gambo eisoes yn cael ei bostio i danysgrifwyr dramor, yn ogystal â’r rhai dros y ffin. Felly croesawn y cyfle i ddal i sgwrsio fel petai, a darllenwyr hen a newydd.

"Croesawn hefyd unrhyw sylw neu ymateb i’r datblygiad yma; ysgrifennwch e-bost neu lythyr at olygyddion /gohebwyr sy’n cael eu rhestri ar y dudalen uwchben. Yn y cyfamser, cymrwch ofal, cadwch yn iach - a mwynhewch y darllen!"