Ar ôl i Eisteddfod Genedlaethol Tregaron gael ei chanslo yn sgil argyfwng coronafeirws, y bwriad yw cynnal y Brifwyl yn Nhregaron ym mis Awst 2021.

Yna bydd Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn symud i Awst 2022, gyda'r Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei chynnal yn 2023.

Dywedodd yr Eisteddfod y "cymerwyd y penderfyniad anodd gan fwrdd rheoli'r sefydliad yn dilyn nifer o drafodaethau".

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion bellach yn cael ei chynnal o Orffennaf 31 - Awst 7 2021 yn Nhregaron, ar yr un lleoliad â'r hyn oedd wedi'i drefnu eleni.

Dywedodd llywydd Llys yr Eisteddfod a chadeirydd y bwrdd rheoli, Ashok Ahir: "Yn naturiol, fe fydd ein cefnogwyr yn siomedig, ond rwy'n sicr y bydd pawb yn cytuno mai dyma'r penderfyniad cywir a synhwyrol i'r bwrdd rheoli'i gymryd.

"Mae'n bwysig nodi mai gohirio Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rydym yn ei wneud, ac nid ei chanslo."

Dywedodd y trefnwyr bod unrhyw un sydd wedi archebu stondin neu le gwersylla yn gallu un ai cadw eu lle tan 2021, neu ganslo.

Mae Eisteddfod yr Urdd eisoes wedi gohirio prifwyl 2020, oedd i fod i gael ei chynnal yn Ninbych, nes mis Mai 2021.

Ychwanegodd y prif weithredwr, Betsan Moses: "Mae'r misoedd nesaf yn mynd i fod yn anodd i'r Eisteddfod, ac fe fyddwn yn ddibynnol ar ewyllys da ein cefnogwyr a'n ffrindiau'n fwy nag erioed.

"Rydym yn benderfynol o barhau i weithio er budd y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac yn mawr obeithio y bydd modd ail-gychwyn ar y gwaith cymunedol yng Ngheredigion ac ar draws Llŷn, Eifionydd ac Arfon cyn gynted â phosibl.

"Yn y cyfamser, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cefnogi ein gilydd a'n cymunedau ar draws y wlad a chadw'n ddiogel ar hyn o bryd.

"Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Dregaron yn haf 2021, gyda gŵyl a rhaglen arbennig iawn."