Mae mentrau iaith Ceredigion a Sir Benfro yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein yn ystod argyfwng y coronafeirws.

Mae manylion ar gael ar dudalen Facebook Cica Corona ac mae’r deunydd hefyd yn cael ei rannu i dudalennau Menter Iaith Sir Benfro a Cered.

Ymysg y digwyddiadau y mae cwisiau, cystadlaethau limrig a sesiynau Paned a Sgwrs.

Mae deunydd sy’n addas i ddysgwyr a phlant hefyd fel cynigion Hwiangerdd yr Wythnos a Gair y Dydd.