Ym mis Mawrth wrth i'r feirws ond yn dechrau newid ein bywydau, bu Cerddwyr Cylch Teifi yn ardal Llangrannog ar daith i gael gwybod mwy am y cyfansoddwr Edward Elgar a'i ymweliadau â'r pentref.

Y cerddor Idris Rees oedd yn harwain. Ar lwybr yr arfordir, rhoddodd Idris yr hanes am Elgar yn clywed pobl leol yn canu o bell, ac yn defnyddio rhywfaint o'r dôn wrth gyfansoddi nes ymlaen.

Bu angen arbrawf wedyn – y Cerddwyr yn canu'r wahanol emynau y gallai Elgar fod wedi'u clywed ac wedyn eu cymharu â'r cyfansoddiad a glywyd ar CD, a barnu pa emyn yr oedd wedi'i glywed!

Gyda'r rygbi wedi'i ganslo funud olaf oherwydd coronafeirws, bu lle i'r grwp fynd i fwynhau croeso'r Pentre Arms.

Cwta wythnos wedyn, daeth yn amlwg pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa, ac felly bu rhaid canslo teithiau eraill y tymor.

Diolchwyd yn gynnes i'r cerddwyr i gyd sy'n dod i fwynhau'r teithiau, ac i'r arweinwyr sy'n gweithio mor galed i baratoi ac arwain teithiau diddorol bob tro. Y gobaith yw y bydd y cylch yn gallu ailddechrau pan fydd pethau'n well.