BYDD gwledd o dalentau canu yn help codi arian tuag at gronfa leol Aberteifi a’r Cylch Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 mewn cyngerdd yn Aberteifi.

Mae’r pwyllgor wedi derbyn cynnig caredig gan Gôr Meibion Dathlu Cwmtawe sy’n ymweld ag Aberteifi yn ystod y penwythnos hwnnw ac yn edrych ymlaen at groesawu’r côr a’r artistiaid.

Ffurfiwyd y côr yn 2011 o dan arweiniad Conway Morgan a’r cyfeilydd yw Dr David Lyn Rees.

Mae gan nifer o aelodau’r côr brofiad o ganu am flynyddoedd gyda Chôr Meibion Ystradgynlais ynghyd â chorau eraill yn yr ardal ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn eu canu.

Yn ymuno â'r côr bydd tri o ddisgyblion Buddug Verona James. Mae'r soprano Louise Hales sy'n dod yn wreiddiol o Sir Benfro yn gobeithio mynd i astudio llais mewn coleg cerdd yn 2020.

Mi gafodd y bariton Owain Rowlands lwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst ar yr unawd rhwng 19 a 25. Mae Owain yn astudio cerdd a mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'r mezzo soprano Aurelija Stasiultye o Lithuania. Mae wedi ennill Llais Llwyfan Llambed a nifer o gystadlaethau yn Lithuania.

Eleni bu'n canu rôl Dorabella i Swansea City Opera, ac yn aelod o'r ensemble yng Ngŵyl Buxton.

Cynhelir y cyngerdd ar nos Sadwrn, Tachwedd 16, yn Eglwys y Santes Fair Aberteifi am 7 o’r gloch.

Bydd merch leol, dalentog sef Angharad James yn cyfeilio iddynt. Mae’r tocynnau yn £10 ac ar gael yn Awen Teifi, Swyddfa Yswiriant Delwyn Griffiths a thrwy aelodau’r pwyllgor.