Cynhaliwyd Talwrn y Beirdd gwahanol i’r arfer yng Nghaffi Emlyn, Tan-y-groes, yng nghyfarfod Hydref Cymdeithas Ceredigion.

Yn lle gwneud cerddi ar destunau gosodedig, gofynnwyd i’r beirdd ymateb i luniau wedi’u arddangos ar sgrin o flaen y gynulleidfa.

Gwelwyd chwe llun, i gyd gan artistiaid o Geredigion a ddewiswyd gan Robyn Tomos, llywydd y gymdeithas a swyddog celf yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cystadlodd tri thîm lleol, Crannog, Glannau Teifi a chyfuniad o dimau Ffostrasol a Chaerfyrddin, sef Caerasol.

Roedd y tasgau yn dipyn o her i’r beirdd, yn enwedig mewn un rownd wrth iddynt ymateb i ddarn o ffilm o waith Seán Vicary, yn hytrach na llun llonydd, a cheisio adrodd eu cerddi i gydasio â rhediad y fflim.

Yn y diwedd enillodd Crannog (Idris Reynolds, Philippa Gibson ac Endaf Griffiths) gystadleuaeth glos.

Barnodd y Prifardd Ceri Wyn Jones ar eu cynigion mewn ffordd mor feistrolgar a ffraeth ag arfer.

Cafodd pawb gryn hwyl wrth i’r cerddi gyffwrdd â’r lleddf a’r llon, yn enwedig wrth glywed bod cwrcyn Emyr Davies, Caerasol, wedi llewygu wrth weld maint y llygod yn y llun, Cadwgan y Llygoden o’r Lleuad gan Elwyn Ioan.

Nid oedd dim amheuaeth ar ddiwedd y noson fod yr arbrawf wedi llwyddo. Ac roedd yr aelodau yn ddiolchgar iawn i Llenyddiaeth Cymru am noddi’r achlysur.

Cynhelir cyfarfod Tachwedd ar nos Sadwrn yr ail o’r mis am 7.30 yng Nghaffi Emlyn pan ddaw Daniel Davies, yr awdur crafog o Lanarth i siarad ar y testun 'Woody Allen, Peter Kay a Fi' gan sôn am waith Idwal Jones, D Jacob Davies, Eirwyn Pontshan a’r traddodiad comig yn llenyddiaeth Ceredigion.