Mae ‘Tlws yr Eidalwyr’ wedi dychwelyd i Geredigion cyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020.
Mae’r tlws yn cael ei drosglwyddo o un cyngor sir i’r llall wrth i’r Eisteddfod deithio o amgylch Cymru.
Cafodd y tlws ei drosglwyddo i Gyngor Sir Ceredigion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy mewn seremoni trosglwyddo ar y maes yn Eisteddfod Llanrwst eleni.
Fe dderbyniodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn y tlws gan arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Samuel Rowlands.
Er bod cartref y tlws yn newid yn flynyddol, mae ganddo wreiddiau dwfn yng Ngheredigion.
Cafodd ei ddylunio gan y gemydd adnabyddus Rhiannon Evans sydd ei hun yn dod o gartref yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2020, Tregaron fel y mae Iestyn Evans, a luniodd y gwaith arian. Dafydd Jones o Lanybydder a weithiodd ar y llechen a Conway Morgan o Bentre’r-gât a greodd y plinth dderwen.
Fe’i henwir yn Dlws yr Eidalwyr oherwydd cysylltiad unigryw’r Cymry â charcharorion rhyfel Eidalaidd a fu’n cael eu cadw yn Henllan yn Ne Ceredigion am gyfnod yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Wedi’r rhyfel, roedd cymdeithas o gyn-garcharorion Henllan am gyflwyno tlws parhaol fel arwydd o ddiolch i’r Cymry am y cyfeillgarwch, caredigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd i’r Eidalwyr tra’r oeddent yn garcharorion yn Henllan.
Mae’r tlws trawiadol yn dangos yn glir y geiriau ‘Heddwch’ ac ‘Amicizia’, sef yr Eidaleg am ‘frawdgarwch’.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Roedd hi’n fraint derbyn Tlws yr Eidalwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst.
"Mae gwreiddiau’r tlws yng Ngheredigion ac yn wir yn rhannol yn Nhregaron.
"Mae neges galonogol y tlws yn parhau i fod yn bwysig ac yn gyfredol yn ein byd heddiw.
"Fe ddatblygodd perthynas arbennig rhwng y carcharorion rhyfel Eidalaidd a thrigolion Henllan – mae’r tlws yn ffordd hyfryd a thrawiadol o nodi’r berthynas honno.
Yn yr un ysbryd, edrychwn ymlaen at groesawu pawb i Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020.”
Bydd y tlws yn cael ei drosglwyddo i Gyngor Gwynedd ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron yn 2020.
Comments: Our rules
We want our comments to be a lively and valuable part of our community - a place where readers can debate and engage with the most important local issues. The ability to comment on our stories is a privilege, not a right, however, and that privilege may be withdrawn if it is abused or misused.
Please report any comments that break our rules.
Read the rules here