BYDD Cymdeithas Waldo yn cynnal ocsiwn o luniau a llawysgrifau i godi arian i barhau â’r gwaith maen nhw'n wneud i goffau'r bardd a heddychwr Waldo Williams.

Mae hi'n fwriad gan y gymdeithas i gynnal ocsiwn ' Llên a Chelf a Llun a Chân' am 10yb ar Dachwedd 16 yn Ysgol y Frenni, Crymych.

Bydd yr arian yn mynd tuag at hyrwyddo cyfraniad Waldo at lên a diwylliant Cymru ac i ddiogelu’r cof am ei waith a’i fywyd fel bardd, Crynwr a heddychwr.

Sefydlwyd Cymdeithas Waldo naw mlynedd yn ôl yn y flwyddyn 2010.

Dros y naw mlynedd ddiwethaf mae wedi cynnal darlith flynyddol gydag Emyr Llywelyn, Mererid Hopwood, Robert Rhys, T James Jones, Gareth Miles, Aled Gwyn, Guto Prys ap Gwynfor, M Wynn Thomas, Ieuan Wyn, Jason Walford Davies a Rowan Williams ymysg y siaradwyr.

Hefyd mae aelodau wedi gosod placiau yn Ysgol Botwnnog, Rhosaeron – cartref teulu Waldo, ar Weun Casmael, Llangernyw, Aberystwyth, Capel Millin, Elm Cottage, Kimbolton a Rhoscrowther ger Penfro.

Ymysg y gweithgareddau eraill cyhoeddwyd taflen ‘Taith Waldo’ hefyd sy'n cyfeirio at yr holl lefydd hynny sy’n berthnasol i hanes bywyd Waldo.

Comisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris i greu penddelw efydd o Waldo sydd i'w weld yn Ysgol y Preseli.

Ym mis Medi eleni dadorchuddiwyd plac y tu fas i hen westy Alandale, Tyddewi lle arferai Waldo letya am nifer o flynyddoedd.

Hefyd dadorchuddiwyd bwrdd gwybodaeth yn Oriel y Parc. Lansiwyd argraffiad newydd o ‘Cerddi’r Plant’, llyfr o farddoniaeth i blant a gyfansoddwyd gan Waldo ac E Llwyd Williams ar y cyd.

Talwyd teyrnged i Eirwyn Charles, asiant etholiadol Waldo yn1959, a chafwyd darlith ar y testun ‘ Crefydd Waldo’ gan Emyr Llywelyn.

Os am restr o'r eitemau yn yr ocsiwn hyd yn hyn, cysylltwch â'r ysgrifennydd Alun Ifans ar 01437 532603, alunifans@hotmail.com