Cynhaliwyd achlysur dedwydd yng Nghapel Mair, Aberteifi, yn ddiweddar wrth i’r eglwys gydnabod gwasanaeth y Parch Irfon Roberts i’r weinidogaeth yng Nghymru am hanner can mlynedd.

Daeth yn weinidog gweithgar a diwyd i Gapel Bethania a Chapel Mair ar Ebrill 15, 1998, wedi treulio cyfnodau llwyddiannus a byrlymus yn ardaloedd Caio, Castellnewydd Emlyn a Brynaman.

Ymhlith y rhoddion, cyflwynwyd englyn o waith y Prifardd Ceri Wyn Jones iddo a thusw o flodau i’w briod ymroddgar, Mrs Mair Roberts.