Crewyd ychydig o hanes yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar oherwydd fe gynhaliwyd Eisteddfod yno, yr un gyntaf ers 1176!

Rhoddodd yr Arglwydd Rhys wahoddiad i holl feirdd a chantorion Ynysoedd Prydain, Ffrainc a Sbaen ddod i’r castell i gystadlu yn erbyn ei gilydd ym mis Rhagfyr 1176.

A phenderfynodd Ffion Morgan, Natalie Morgan, a Helen Thomas, sydd yn aelodau o Bwyllgor Codi Arian ar gyfer Eisteddfod Ceredigion 2020, o dan ardal Aberteifi, Ferwig a Llangoedmor, fod angen cynnal digwyddiad i bobl ifanc ar Awst 15.

Y syniad oedd dod â phawb at ei gilydd, yn codi arian at achos teilwng, a chael llawer o hwyl ar yr un pryd.

Cafwyd cystadlaethau fel canu unawd, unawdau offerynnol, dweud jôcs, ymgom, llefaru, darllen darn heb atalnodi, a stori a sain. Mawr oedd y gwrando astud a’r chwerthin.

Diolchwyd yn fawr i arweinydd Cipio’r Castell, sef Dafydd Wyn Rees, ac i’r beiriniaid llwyfan, Iwan John a Non Parry, a’r beirniad llenyddol, sef Ceri Wyn Jones, am roi o’u hamser.

Yr unigolyn a wnaeth yr argraff fwyaf, ac felly oedd yn ‘cipio’r castell’ oedd Lefi Dafydd o Grymych. Llongyfarchiadau mawr iddo a derbyniodd brint o lun Rhiannon o Mwnt am ei dalent wrth y piano.

Hoffai Natalie, Ffion a Helen ddiolch yn fawr iawn iawn i fusnesau Aberteifi am eu haelioni yn noddi’r cystadlaethau, ac i bawb ddaeth i gystadlu ac i gefnogi’r noson.

Llwyddwyd i godi £300. Mae pawb nawr yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn Nhregaron.