llandysul news

CAPEL CARMEL: Ar nos Sadwrn, Gorffennaf 6, bu oedfa'r dathlu yn y capel. Llywydd y noson oedd y gweinidog y Parch Aled Jones. Pregethwyd gan y Parch Jill Hailey Harries, llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Roedd cyn weinidog y capel y Parch Kevin Davies, Caerdydd, yn bresennol. Derbynwyd cyfarchion oddi wrth dau o gyn weinidogion y capel sef y Parch Dorian Samson a'r Parch Dafydd C Williams.

Yr organyddion yn yr oedfa nos Sadwrn a'r gymanfa ganu yn y prynhawn a

nos Sul oedd Linda Jones a Meinir Jones.

Ysgrifennydd y capel, Cyng Keith Evans, a'r trysorydd, Mr Gethin Jones, a drefnwyd arddangosfa hanesyddol gyda lluniau amrywiol a diddorol am y blynyddoedd a fu yn festri Capel Carmel gan Eleri Davies a Mary Williams.

Fe fydd yr atgofion pwysig yma ar gof a chadw fel plat y dathlu.

Ar brynhawn Sul cynhaliwyd oedfa o gymun undebol yn y capel gyda'r gweinidog yn pregethu. Roedd te i ddilyn y gwasanaeth i bawb yn festri Capel Pantydefaid.

Aelod hynaf Capel Carmel yw Mrs Ella Davies ond yn anffodus nid oedd yn gallu bod

yn bresennol, felly torwyd cacen y dathlu gan Mrs Irene Jones a fu'n athrawes ysgol Sul

Capel Carmel am flynyddoedd.

Rhoddwyd y gacen gan Mrs Betty Evans, Mrs Mair Davies, Mrs Irene Jones a Mrs Nansi Jones, aelodau'r capel.

iolchodd y Parch Aled Jones i'r Parch Wyn Thomas ac aelodau Capel Ppantydefaid am eu caredigrwydd a'u croeso

Yn y nos cynhaliwyd cymanfa ganu yng Nghapel Carmel o dan arweiniad Mr Gareth Williams o Lannon, Sir Gaerfyrddin, sydd â chysylltiad teuluol â Fforest Newydd, Tregroes, a Chapel Carmel.

Cadeirydd y noson oedd y Parch Aled Jones a'r artistiaid oedd plant ac ieuenctid y capel.

Canwyd emyn y dathlu ar ddechrau ac i ddiweddu'r noson. Ysgrifennwyd y geiriau hyfryd gan Mrs Eleri Davies a braf oedd clywed y canu gorfoleddus yn llenwi'r capel i glodfori 200 mlynedd y capel.

Diolchodd y Parch Aled Jones i bawb a oedd wedi cyfrannu a helpu gyda'r paratoadau a threfniadau y dathlu ac wedi cymryd rhan yn yr oedfa a'r gymanfa ganu.

Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth ac am ymuno ag aelodau'r capel yn y dathliadau.