Cododd wyneb cyfarwydd iawn i bobol Dyffryn Teifi i’w draed ar ganiad y Corn Gwlad yn un o brif seremoniau Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth i Jim Parc Nest (T James Jones) ddod i’r brig.

Yn seremoni olaf yr wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, derbyniodd Jim y y Gadair am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, heb fod dros 250 o linellau ar y teitl 'Gorwelion'.

Y beirniaid eleni oedd Myrddin ap Dafydd, Llion Jones ac Ieuan Wyn.

Wrth draddodi’r feirniadaeth o’r llwyfan ar ran ei gyd-feirniaid, soniodd Llion Jones mai saith o feirdd yn unig oedd wedi ymgeisio am y Gadair eleni, ac ar ôl trafod y chwech arall, daeth at y cyfansoddiad buddugol.

"Os ydach chi wedi gwneud eich sỳms, fe fyddwch chi’n gwybod fod yna un bardd yn dal i redeg. Wil Tabwr ydi’r bardd hwnnw, a diolch amdano," meddai.

"Drama fydryddol ar gynghanedd sydd gan Wil, ac ynddi, cawn bortread llachar o Iolo Morgannwg, y saer maen o Drefflemin a thad Gorsedd y Beirdd, ac yng ngeiriau ei gofiannydd, yr hanesydd Geraint Jenkins, ‘un o’r Cymry mwyaf deallus a chreadigol a welwyd erioed’.

“Dyma gerdd, sydd yn y pen draw, yn clodfori’r ysbryd creadigol a radical oedd yn rhan o anian Iolo, ac sydd, yn ôl y bardd ac Iolo fel ei gilydd, yn anhepgor i oroesiad cenedl.

“Mae’n bwrw trem yn ôl ar draws canrifoedd o draddodiad barddol o Gatraeth i Gilmeri ac ni chlyw ond marwnadau beirdd, gan beri iddo holi’r cwestiwn ‘Ai hyn oll fu ei siwrne hi, ‘mond storom o hunandosturi?’. Mae’r cwestiwn hwnnw yn ei dro yn arwain at gwestiwn rhethregol pellach ‘Ai dyma’r eiliad i ymwroli?’

“Ym marn gytûn y tri ohonom, mae cerdd Wil Tabwr gryn dipyn ar y blaen yn y ras am y gadair eleni, o safbwynt ei huchelgais, ei chyfeiriadaeth, ei meddylwaith a’i mydryddiaeth."

Yn wreiddiol o o Gastellnewydd Emlyn, mae Jim Parc Nest bellach wedi ymgartrefu yn Radur, Caerdydd. Mae’n gyn-Archdderwydd ac felly’n hen gyfarwydd â’r prif seremonïau ar lwyfan y brifwyl.

Dyma’r eilwaith iddo ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dilyn ei lwyddiant yn Eisteddfod Sir y Fflint dddeuddeng mlynedd yn ôl yn 2007. Mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ddwywaith, yn Abergwaun yn 1986 a Chasnewydd yn 1988.

Yn fardd cyhoeddedig, dramodydd llwyfan, radio a theledu, ef yw awdur 'Dan y Wenallt', ei gyfieithiad o 'Under Milk Wood', Dylan Thomas. Cyfansoddwyd y ddrama honno dan gymylau tywyll yr Ail Ryfel Byd, a fygythiai ddifancoll dynolryw.

Crëwyd yr awdl hon mewn cyfnod gwleidyddol bygythiol i Gymru. Ond drwy dderbyn gweledigaeth obeithiol Iolo Morganwg, y Bardd Rhyddid, efallai y bydd modd i ninnau, yn y cyfnod brawychus hwn, wrthsefyll gormes imperialaeth Prydeindod.

Gwerthfawrogir cefnogaeth ac ysbrydoliaeth teulu agos ac estynedig, ynghyd â ffrindiau. Cydnabyddir hefyd ymchwil angenrheidiol Yr Athro Geraint Jenkins a’i gydweithwyr i fywyd a gwaith y ‘Digymar Iolo’.