Roedd Gorffennaf y cyntaf yn ddiwrnod mawr yn Ysgol Llechryd, pan lansiwyd eu comig 'Lleisiau Llechryd' gan y gŵr gwadd Mr Ben Lake AS.

Cafwyd dathliad mawr yn yr ysgol yng nghwmni'r disgyblion, llywodraethwyr, rhieni, staff, ffrindiau yr ysgol, heb anghofio yr Archarwyr Seren a Sbarc.

Braf oedd gweld pawb yn dod ynghyd i ddathlu'r lansiad ac i gael cipolwg ar y comig am y tro cyntaf.

Cafodd y comig ei greu gan blant Cyfnod Sylfaen a Blwyddyn 3 yr ysgol.

Gweithiodd y plant yn agos iawn gyda Beth Saunders, cartwnydd proffesiynol, i greu'r campwaith.

Cafodd y plant gyfle i weithio gyda Beth a dysgu nifer o sgiliau amrywiol wrthi. Mae copiau ar werth yn yr ysgol am bris o £2.50.