Cafodd Rali Flynyddol Pwyllgor Egin Gwyrdd, Cymanfa Penfro, ei chynnal eleni ym Methel, Mynachlog-ddu.

Llywydd yr oedfa oedd y Parch Eirian Wyn Lewis a'r organydd oedd Jill Lewis.

Pedair ysgol Sul fu'n cystadlu gyda 72 o blant yn cymryd rhan.

Elizabeth John, Capel Bethabara, fu'n ymweld â'r ysgolion Sul yn holi'r plant. Y siaradwr gwadd oedd Cris Tomos,Capel Star, a fu'n rhannu stori'r Ddafad Golledig i'r plant.