CAFWYD gwledd o gystadlu, adloniant a gweithgareddau dros wythnos Gŵyl Fawr Aberteifi 2019.

Cynhyrchiad criw CICA eleni oedd y sioe gerdd 'Ni a Nhw a Nia' a daeth yr wythnos i ben ar nos Sul gyda chyngerdd mawreddog yn Theatr Mwldan gan gynnwys perfformiadau gan Gôr Meibion Machynlleth a'r unawdydd Aled Wyn Davies, un o'r Tri Tenor Cymreig.

Bu'r cyngerdd hefyd yn cynnwys eitemau gan rai o dalentau ifanc yr ardal – y delynores Gwenllian Hunting-Morris a'r sacsofonydd Talfan Jenkins.

Y llywdd eleni oedd Sian Bowen.

Roedd cystadlu brwd yn yr eisteddfod ei hunan dros y penwythnos gyda'r niferoedd yn uchel iawn.

CANLYNIADAU GŴYL FAWR 2019

NOS WENER

Unawd ar unrhyw offeryn cerdd, Blynyddoedd 7-13: 1 Lefi Dafydd; 2, Luke Rees; 3,= Eliza Bradbury a Teleri Selby

Unawd Blynyddoedd 7-9: 1 Amber Richards; 2, Glesni Haf Morris; 3,= Osian Jenkins a Siwan Mair Jones

Llefaru Blynyddoedd 7-9: 1 Glesni Haf Morris; 2, Phoebe Joy Salmon; 3, Elen Morgan

Parti / Côr Oed Cynradd: 1, Ysgol Gynradd Gymunedol Penparc; 2, Adran Ffynnongroes

Alaw Werin Blynyddoedd 9 ac iau: 1 Siwan Mair Jones; 2, Begw Fussell; 3, Phoebe Joy Salmon

Unawd Blynyddoedd 10-13: 1 Luke Rees; 2, Caleb Nicholas; 3, Ffion Thomas

Cystadleuaeth Ddawns Unigol: 1 Sara Brown; 2, Erin Jones; 3, Dion Jones

Llefaru Blynyddoedd 10-13: 1 Hannah Medi Davies; 2, Ffion Thomas

Cystadleuaeth Ddawns Parti: 1 Dawnswyr Cowin

Cân Gymreig: 1 Arwel Evans; 2, Vernon Maher; 3, Emyr Lloyd Jones

Canu Emyn dros 60 oed: 1, Vernon Maher

Unawd o Sioe Gerdd, dan 19 oed: 1, Ffion Thomas; 2, Hannah Medi Davies; 3, Phoebe Joy Salmon

DYDD SADWRN

Unawd ar unrhyw offeryn cerdd, Blynyddoedd 6 ac iau: 1, Ianto Evans; 2, Alwena Mair Owen; 3,= Mared Peris Evans a Emma Davies Warhurst

Unawd Blynyddoedd Derbyn, 1 a 2: 1, Celyn Davies; 2, Steffan Dafydd; 3, Thomas James Knight

Llefaru Blynyddoedd Derbyn, 1 a 2: 1, Gruffydd Davies; 2, Thomas James Knight; 3,= Iwan Thomas a Teifi Gwyn Evans

Unawd Blynyddoedd 3 a 4: 1, Trystan Bryn; 2, Mari Williams; 3,= Sara Elina a Cerys Davies

Llefaru Blynyddoedd 3 a 4: 1, Cerys Anwen; 2, Trystan Bryn; 3, Gwennan Lloyd Owen

Unawd Blynyddoedd 5 a 6: 1, Kiera; 2, Elen Williams; 3,= Alwena Mair Owen a Ianto Evans

Llefaru Blynyddoedd 5 a 6: 1, Alwena Mair Owen; 2, Elin Williams; 3, Kira

Unawd Cerdd Dant, Blwyddyn 6 ac iau: 1, Alwena Mair Owen; 2, Gwennan Lloyd; 3,= Mari Williams a Fflur Mc Connell

Canu Emyn Blwyddyn 6 ac iau: 1, Alwena Mair Owen; 2, Cerys Anwen; 3,= Kira a Ianto Evans

Llefaru o’r Ysgrythur Blwyddyn 6 ac iau: 1, Alwena Mair Morgan; 2, Kira; 3, Ianto Evans a Cerys Anwen

Alaw Werin 15 oed a throsodd: 1, Emyr Lloyd Jones; 2, Martha Harries; 3, Llinos Haf Jones a David Walker

Côr Merched: 1, Côr Canna; 2, Côr Merched Ysgol Gerdd Ceredigion; 3, Merched Crymych a’r Cylch

Prif gystadleuaeth Llefaru: 1, Maria Evans

Cystadleuaeth Cyfansoddi Emyn: Emyr Davies

NOS SADWRN

Côr Ieuenctid: 1, Ysgol Gerdd Ceredigion

Unawd 19- 25: 1, Emyr Lloyd Jones; 2, Llinos Haf Jones; 3, Rhiannon Ashley

Canu emyn i rai dan 60 oed: 1, Rhiannon Ashley; 2, Arfon Griffiths

Unawd o Sioe Gerdd, 19 oed a throsodd: 1, Emyr Lloyd Jones; 2, Llinos Mai Jones

Côr Meibion: 1, Pendyrus; 2, Ar ôl Tri; 3, Meibion Taf

Unawd Leider neu Gân Gelf: 1, Aled Wyn Thomas; 2, Emyr Lloyd Jones; 3, Efan Williams

Côr Cymysg: 1, Cywair; 2, ABC; 3,Crymych a’r cylch

Rhuban Glas: 1, Steffan Jones; 2, Arfon Griffiths; 3, Erfyl Thomas Jones; 4, John Davies

Côr yr Ŵyl: Côr Cywair

Arweinydd corawl gorau’r Ŵyl: Islwyn Evans

CANLYNIADAU LLÊN

Cerdd y Gadair: Geraint Roberts

Soned: 1, John Parry; 2, John Gruffydd; 3, Dai Rees Davies

Cywydd: 1, Donald Evans; 2, Arwel Emlyn Jones; 3, Arwel Emlyn Jones

Cân Ddigri: 1, Dai Rees Davies; 2, Arwel Emlyn Jones; 3,Arwel Emlyn Jones

Englyn: 1, Philippa Gibson; 2, Dosbarth Cerdd Dafod; 3, Geraint Roberts

Englyn Ysgfan: 1, Dai Rees Davies; 2, Nia Llewellyn; 3, Dai Rees Davies

Telyneg: 1, Mary Jones; 2, Gaenor Mai Jones; 3, Rhiannon Iwerydd, a Dai Rees Davies

Limrig: 1, Emyr Davies; 2, Elfed Evans; 3, Elfed Evans

Brawddeg: 1, Mary B Morgan; 2, Dai Rees Davies; 3, Carys Bridden ac Elfed Evans

Stori Fer: 1, Caron Wyn Edwards; 2, John Gruffydd Jones; 3, Karina Wyn Dafis

Dysgwyr (Lefelau Mynediad a Sylfaen): 1, Sharon Davies; 2, Di-enw

(Lefelau Canolradd ac Uwch): 1, Anne May; 2, Elizabeth Poole

Erthygl ar gyfer Papur Bro ‘Y Dwrgi’: 1, John Parry

Emyn: 1, Dai Rees Davies

Tlws yr Ifanc: 1, Mirain James

GWAITH CARTREF YSGOLION

CYNRADD

Barddoniaeth: 1 Gethin James; 2, Beca George; 3, Elan Mai Mabbutt, a Lleucu Hâf Thomas

Stori: 1 Beca Dwyryd; 2, Fflur McConnell; 3, Ifan James ac Elin Harries

Arlunio-Derbyn a Bl. 1 a 2: 1 Elsa Thomas; 2, Sion Evans ; 3, Amber O’Connor

Arlunio-Bl. 3 a 4: 1 Bethan Efa Green; 2, Sebastian Tree a Bethan Green; 3, Maisie Williams a Casey Brown

Arlunio - Bl. 5 a 6: 1 Lleucu Hâf Thomas; 2, Hawys James a Zoe May Thomas; 3, Jude Brown a Lleucu Mathias

Arlunio - Bl. 7,8,9: 1, Esyllt Davies; 2, Dafydd Green; 3, Logan Tree

UWCHRADD

Stori B. 7,8,9: 1 Lefi Aled Dafydd; 2, Ioan Joshua Mabbutt; 3, Ioan Joshua Mabbutt

Barddoniaeth Bl 7,8,9: 1 Megan Dafydd; 2, Megan Williams; 3, Gwenno Humphries