Mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i Glwb Ffermwyr Ifanc Penparc gan eu bod yn dathlu 75 mlynedd.

Cynhaliwyd y cinio blynyddol yng Ngwesty'r Cliff, Gwbert ym mis Mawrth gyda dros 100 o aelodau, arweinyddion a ffrindau'r clwb yn ymuno. Geraint Lloyd oedd y siaradwr gwadd ac roedd yn braf clywed am ei storiau am ei amser yn y mudiad.

Ym mis Ebrill, cafon ddawns dathlu yn The Shed, Mwnt, yng nghwmni Bryn Fôn.

Roedd yn noson llawn hwyl a ddawnsio ac roedd yn hyfryd gweld y sied yn llawn trwy'r nos.

Mae'r aelodau wedi cael blwyddyn llwyddiannus, wrth ddod yn ail yn diwrnod maes y sir, nôl yn mis Medi, ac yn ddiweddar yn gydradd ail yn Rali Lledrod, un pwynt tu ôl i'r enillwyr.