Mae disgwyl i ddarlith flynyddol Gŵyl Clochog dorri tir newydd eleni.

Mae teitl y ddarlith ei hun yn air nad yw yn y geiriadur - ‘Ein Tref-famaeth’. Y darlithydd fydd Catrin Stevens o Gasllwchwr ond a fu’n byw ym Maenclochog am gyfnod.

Fel hanesydd bu’n astudio ein treftadaeth o safbwynt cyfraniad y gwragedd a chanfod nad ydyn nhw wedi cael sylw haeddiannol. Catrin yw cadeirydd Archif Menywod Cymru, mudiad a sefydlwyd ugain mlynedd nôl i dynnu sylw at gyfraniad menywod yn hanes ein gwlad.

Mae Catrin hefyd yn gyn-lywydd Merched y Wawr ac mae disgwyl i aelodau’r canghennau lleol i heidio i Neuadd Maenclochog ar nos Wener, Mehefin 21, i wrando arni. Bydd yn cyfeirio’n helaeth at fenywod Sir Benfro.

A phan oedd yn byw ym Maenclochog fe groniclodd hanes y chwareli yn y cylch gan bwysleisio cyfraniad y gwragedd. Wyddech chi beth oedd gweithred gyntaf y gwragedd pan ddeuai’r gwŷr adref? Wel, lluo’r llwch o’u llygaid.

Bore trannoeth cynhelir Taith Gerdded Flynyddol y Preselau. Hon fydd y ddegfed daith a sefydlwyd i gofio am yr arweinwyr hynny a rwystrodd militariaeth rhag meddiannu’r bryniau ar ddiwedd y 1940au. Bydd y pererinion yn cwrdd ar ben Bwlchgwynt am ddeg o’r gloch y bore. Mae yna rai sydd wedi cerdded bob blwyddyn.

Gyda’r hwyr, eto yn Neuadd Maenclochog, cynhelir cyngerdd gan Bechgyn Jemeima o ardal Abergwaun. Mae yna gysylltiad lleol eto, am fod eu sefydlydd, Marilyn Lewis, wedi byw yn y cyffiniau am flynyddoedd lawer.