Yng nghystadleuaeth flynyddol Darllen Dros Gymru Sir Benfro, yr un ysgol ddaeth i’r brig yng nghystadleuaeth Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6.

Penllanw’r gystadleuaeth oedd cyflwyno ar lyfr a’r llyfrau a ddewiswyd eleni oedd ‘Clem a’r Syrcas’ gan Alex T Smith (addasiad gan Luned Whelan) a ‘Fi a Joe Allen’ gan Manon Steffan Ros.

Cynhaliwyd y rownd yn Ysgol y Frenni, Crymych. Cymerwyd rhan gan ysgolion y Frenni, Llanychllwydog, Llandudoch, Eglwyswrw a Chaer Elen a’r beirniad oedd Mr Alwyn Evans.

Eisoes roedd yr wyth tîm wedi llwyddo i ddangos eu bod yn gallu trafod llyfrau’n effeithiol ac wedi curo 65 o dimau er mwyn cyrraedd y rownd hon.

Bydd timau Blwyddyn 3 a 4 a Blwyddyn 5 a 6 ysgol Eglwyswrw yn cynrychioli Sir Benfro nawr yng nghystadleuaeth genedlaethol Darllen Dros Gymru yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar Fehefin 25 a 26.