Fel arfer, bu diwrnod Eisteddfod Llandudoch yn un prysur iawn. Bu’r cystadleuwyr yn llifo’n gyson i’r llwyfan, a’r gwobrau’n cael eu rhannu gydol y dydd.

Y beirniaid eleni oedd Trystan Lewis, Llandudno, a Siân Meinir, Caerdydd (Cerdd); Lowri Steffan, Aberystwyth (Llefaru); y Prifardd Gruffudd Eifion Owen, Caerdydd (Llên); Anne Cakebread, Llandudoch (Celf y plant); a Jen Sajko, Trefdraeth (Llên plant).

Cychwynnwyd yr wythnos o weithgareddau gyda noson wobrwyo cystadlaethau cartref y plant. Yn Theatr Mwldan ar y nos Lun cyn yr eisteddfod dyfarnwyd y gwobrau gan y ddwy feriniad.

Enillydd tlws W R Smart am y llenor mwyaf addawol oedd Ifan James, o Ysgol Eglwyswrw ac enillydd Tlws Coffa Kenneth Mower am yr arlunydd mwyaf addawol oedd Alys Humphreys, Ysgol Llandudoch.

Tîm Beca a ddaeth i’r brig yn y talwrn blynyddol a gynhaliwyd nos Fercher yng ngofal y Meuryn, y prifardd Hywel Griffiths o Aberystwyth. Noson ddifyr, bywiog a diddorol, yn cynnwys y difrifol a’r doniol.

Bu cystadlu brwd iawn ym mhlith plant lleol yn sesiwn gyntaf ddydd Sadwrn, a braf oedd gweld nifer ohonynt yn cystadlu hefyd yn yr adran agored yn hwyrach ymlaen

Fel arfer bu eisteddfod yr hwyr yn gyngerdd o noson gyda Chôr Crymych yn cipio’r brif wobr, Dai Penlan Davies yn ennill y brif gystadleuaeth lefaru, a Joy Cornock Thomas, Talyllychau (gynt o Abergwaun) yn dod i’r brig ar yr Hen Ganiadau a’r Her Unawd.

Cipiwyd cadair hyfryd Colin James, gynt o Landudoch ond bellach o Dorchester, gan Beryl Williams, Caerdydd ar ei cherddi ar destun ‘Yr Ogof’. Er yn frodor o Gwmpengraig, bu’n byw yng Nghaerdydd ers nifer o flynyddoedd.

Enillwyd cystadleuaeth Tlws llenyddiaeth yr Ifanc, a gafodd ganmoliaeth uchel iawn gan Gruffudd owen. Gan Sioned Bowen, o Lanfihangel-ar-Arth

Canlyniadau

CYSTADLAETHAU CARTREF

Rhyddiaith

Stori neu ddisgrifiad i blant hyd at Flwyddyn 2: 1, Aneira Read, Ysgol Eglwyswrw; 2, Cecil Lewis, Ysgol Eglwyswrw; 3, Sophie Stock, Ysgol Llandudoch.

Stori neu ddisgrifiad i blant blynyddoedd 3 a 4: 1, Elin Harries, Ysgol Eglwyswrw; 2, Lois Alaw Williams, Blaenau Ffestiniog; 3, Beca George, Ysgol Eglwyswrw.

Stori neu ddisgrifiad i blant blynyddoedd 5 a 6: 1, Alaw Thomas, Ysgol Llanychllwydog; 2, Ifan James, Ysgol Eglwyswrw; 3, James Griffiths, Ysgol Eglwyswrw.

Barddoniaeth

Barddoniaeth oed Cyfnod Sylfaen: 1, Glain Phillips, Ysgol Eglwyswrw; 2, Wil Freeman, Ysgol Eglwyswrw; 3, Cecil Lewis, Ysgol Eglwyswrw.

Barddoniaeth blynyddoedd 3 a 4: 1, Gwern Phillips, Ysgol Eglwyswrw; 2, Beca George, Ysgol Eglwyswrw; 3, Gwyneth Lewis, Ysgol Eglwyswrw.

Barddoniaeth blynyddoedd 5 a 6: 1, Mared Vaughan, Ysgol Eglwyswrw; 2, Hawys James, Ysgol Eglwyswrw; 3, Ifan James, Ysgol Eglwyswrw.

Gwobr Her W R Smart i’r llenor mwyaf addawol: Ifan James, Ysgol Eglwyswrw

Cystadlaethau Celf

Gwaith 3D Oed meithrin neu dderbyn: 1, Anni Foulkes Roberts, Ysgol Llandudoch; 2, Jac Humphreys, Ysgol Llandudoch; 3, Rowan Reeves, Ysgol Llandudoch.

Gwaith 2D Meithrin/Derbyn: 1, Carter Sales, Ysgol Llandudoch; 2, Brook Thomas, Ysgol Llandudoch; 3, George Caygill, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 1 a 2 (3D): 1, Grŵp o Ysgol Cei Newydd; 2, Elsie Reeves, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 1 a 2 (2D): 1, Aneira Read, Ponyglasier; 2, Alaw Williams, Ysgol Aberteifi; 3, Calvin Forsyth-Grota, Ysgol Llandudoch.

Cymeradwyaeth: Alys Humphreys, Ysgol Llandudoch ac Aysel Durdu, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 3 a 4: 1, Nicola, Ysgol Cei Newydd; 2, Loti James, Ysgol Llandudoch; 3, Daniel Cull, Ysgol Llandudoch.

Cymeradwyaeth: Jasmine Lorencova, Ysgol Llandudoch.

Blwyddyn 5 a 6: 1, Joshua Cann, Ysgol Cei Newydd; 2, Shanida Evans, Ysgol Llandudoch; 3, Lula Tiffany, Ysgol Cei Newydd.

Cymeradwyaeth: Grace, Ysgol Cei Newydd; Shanida Evans, Ysgol Llandudoch; Ava Verrall, Ysgol Llandudoch

Ffotograffiaeth: Blwyddyn 6 ac iau: 1, Danny Graham, Ysgol Llandudoch; 2, Danny Graham, Ysgol Llandudoch; 3, Kabe Briton-Smith, Ysgol Llandudoch.

Tlws Coffa Kenneth Mower i’r arlunydd mwyaf addawol: Alys Humphreys, Ysgol Llandudoch.

CYSTADLAETHAU LLWYFAN LLEOL

Llefaru unigol oed Blwyddyn 2 ac iau: 1, Efa Kerr, Glanrhyd; 2, Alys Humphreys, Ysgol Llandudoch; 3, Einir Mai Lewis, Ysgol Eglwyswrw.

Unawd oed Blwyddyn 2 ac iau: 1, Elsie Birch, Llandudoch; 2, Sophie Stock, Llandudoch; 3, Einir Mai Lewis, Eglwyswrw.

Llefaru unigol Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4: 1,Dyfan Lewis, Eglwyswrw; 2, Lucy Davies Warhurst, Aberteifi; 3, Enlli Haf Morgan Harries, Eglwyswrw, ac Osian Rainsbury, Llandudoch.

Unawd Blwyddyn 3 a Blwyddyn 4: 1, Dyfan Lewis, Eglwyswrw; 2, Sophia Williams; 3, Lucy Davies Warhurst, Aberteifi.

Llefaru unigol Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6: 1, Storm Grey, Llandudoch; 2, Emma Davies Warhurst, Aberteifi; 3, Ela Humphreys, Llandudoch.

Unawd Blwyddyn 5 a Blwyddyn 6: 1, Emma Davies Warhurst, Aberteifi; 2, Ela Humphreys, Llandudoch; 3, Lowri Williams, Penparc.

Unawd Alaw Werin hyd at Blwyddyn 6: 1, Emma Davies Warhurst, Aberteifi; 2, Dyfan Lewis, Eglwyswrw.

Gwobr Her Nantypele i’r perfformiad gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau lleol: Emma Davies Warhurst, Aberteifi.

CYSTADLAETHAU AGORED

Llefaru unigol dosbarth derbyn neu iau: 1, Gruff Rhys Davies, Llandyfriog.

Unawd oed dosbarth derbyn neu iau: 1, Gruff Rhys Davies, Llandyfriog; 2, Alishea Grey, Llandudoch.

Llefaru unigol Blwyddyn 1 a 2: 1, Iwan Mark Thomas, Pontarddulais; 2, Celyn Fflur Davies, Llandyfriog; 3, Delyn Aur Ebenezer, Cellan.

Unawd Blwyddyn 1 a 2, 1af: 1, Celyn Fflur Davies, Llandyfriog; 2, Iwan Mark Thomas, Pontarddulais; 3, Delyn Aur Ebenezer, Cellan.

Gwobr Her Calon Ifanc Llandudoch i’r perfformiad llwyfan unigol gorau yn yr holl gystadlaethau hyd at Flwyddyn 2: Gruff Rhys Davies, Llandyfriog.

Llefaru unigol Blwyddyn 3 a 4: 1, Fflur Mc Connell, Aberaeron; 2, Gwion Bowen, Boncath; 3, Elen Scourfield, Mynachlogddu.

Unawd Blwyddyn 3 a 4: 1, Fflur Mc Connell, Aberaeron; 2, Elin Mair Morgan, Llanbedr PS; 3, Lucy Davies Warhurst, Aberteifi.

Llefaru unigol Blwyddyn 5 a 6: 1, Beca Ebenezer, Cellan; 2, Gwenan Scourfield, Mynachlogddu; 3, Ianto Evans, Casblaidd.

Unawd Blwyddyn 5 a 6: 1, Ianto Evans, Casblaidd; 2, Beca Ebenezer, Cellan; 3, Emma Davies Warhurst, Aberteifi, a Gwenan Scourfield, Mynachlogddu.

Unawd Alaw Werin hyd at flwyddyn 6: 1, Ianto Evans, Casblaidd; 2, Beca Ebenezer, Cellan; 3, Gwenan Scourfield, Mynachlogddu.

Canu emyn hyd at flwyddyn 6: 1, Beca Ebenezer, Cellan; 2, Gwenan Scourfield, Mynachlogddu; 3, Ianto Evans, Casblaidd.

Unawd Cerdd Dant hyd at flwyddyn 6: 1, Fflur McConnell, Aberaeron; 2, Ianto Evans, Casblaidd; 3, Elin Mair Morgan, Llanbedr PS.

Unawd piano hyd at flwyddyn 6: 1 Elin Mair Morgan, Llanbedr PS; 2, Fflur McConnell, Aberaeron.

Unawd unrhyw offeryn cerdd (eithrio’r piano) hyd at flwyddyn 6: 1, Ianto Evans, Casblaidd.

Gwobr Her Iwan a Sian Davies, Isfryn i’r perfformiad llwyfan unigol gorau yn y cystadlaethau o oed Blwyddyn 3 i Flwyddyn 6: Ianto Evans, Casblaidd.

Llefaru unigol dan 16 oed: 1, Fflur James, Llantwd.

Unawd oed dan 16 oed (Cwpan Her Miss Mair Evans): 1,Amber Richards, Aberteifi; 2, Siwan Mair Jones, Caerfyrddin; 3, David Walker, Aberteifi.

Unawd Alaw Werin dan 16 oed: 1, Fflur James, Llantwd; 2, David Walker, Aberteifi; 3, Siwan Mair Jones, Caerfyrddin.

Canu Emyn dan 16 0ed: 1, Fflur James, Llantwd.

Unawd piano dan 16 oed: 1, Lefi Dafydd, Eglwyswrw.

Gwobr Arbennig Merched y Wawr Llandudoch i’r perfformiad llwyfan gorau gan unigolyn yn y cystadlaethau d dan 16 oed: Lefi Dafydd.

Unawd 16 a than 19 oed: 1, Ffion Thomas, Crymych.

Llefaru unigol 19 a than 26 oed: 1, Sioned Howells, New Inn, Pencader.

Unawd 19 a than 26 oed: 1, Owain Rowlands, Llandeilo; 2, Sioned Howells, New Inn.

Unawd Alaw Werin 16 a than 26 oed: 1, Ffion Thomas, Crymych; 2, Sioned Howells, New Inn.

Cân o unrhyw sioe gerdd (unawd, deuawd neu grŵp): 1, Owain Rowlands, Llandeilo; 2, Ffion Thomas, Crymych; 3, Joy Cornock Thomas, Talyllychau a Sioned Howells, New Inn.

Canu emyn 12 a than 60 oed: 1, Sioned Howells, New Inn; 2, Owain Rowlands, Llandeilo; 3, Joy Thomas, Talyllychau.

Darllen darn o’r ysgrythur ar y pryd: 1, Joy Thomas, Talyllychau; 2, Sioned Howells, New Inn; 3, Maria Evans, Alltwalis, a Delme James, Bryn Iwan.

Cystadleuaeth lwyfan i ddysgwyr o Lefel Mynediad hyd at Lefel Uwch – darllen darn y cafwyd mis o amser i’w baratoi: 1, Marie Jan, Penygroes; 2, Penny Gregory, Y Ferwig; 3, Penny Paulson, Aberteifi.

Canu emyn dros 60 oed: 1, Marianne Jones-Powell, Llandre.

Prif gystadleuaeth lefaru: 1, Dai Davies, Aberteifi; 2, Maria Evans, Alltwalis; 3, Sioned Howells, New Inn.

Cystadleuaeth Côr Llandudoch: 1, Côr Crymych a’r Cylch; 2, Merched y Myny’; 3, Bois y Twrch.

Yr Hen Ganiadau – unrhyw unawd Gymreig: 1, Joy Thomas, Talyllychau; 2, Owain Rowlands, Llandeilo; 3, John Davies, Llandybie.

Her Unawd: 1, Joy Thomas, Talyllychau; 2, John Davies, Llandybie; 3, Aled Williams, Cilycwm; 4. Marianne Jones-Powell, Llandre; 5. Sioned Howells, New Inn.

Cystadlaethau Llên yr Ifanc

Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc i gystadleuwyr hyd at 21 oed: 1, Sioned Bowen, Llanfihangel-ar-Arth.

11 oed a than 16 – Darn o ryddiaith (e.e. stori, erthygl, deialog, blog): Lefi Dafydd, Eglwyswrw; Darn o farddoniaeth ar unrhyw ffurf, ond dim mwy nac 20 llinell :

16 a than 26 oed – Darn o ryddiaith: Nanw Maelor, Yr Wyddgrug; Darn o farddoniaeth ar unrhyw ffurf: Ffion Morgan, Aberteifi.

Cystadlaethau Llenyddol Agored

Cystadleuaeth y Gadair: Beryl Williams, Mynydd Bychan, Caerdydd.

Telyneg: Rhiannon Iwerydd, Eglwyswrw.

Soned: Terwyn Tomos Llandudoch.

Pedwar pennill telyn neu bedwar triban: Rachel Philipps James, Crymych.

Englyn: Philippa Gibson, Pontgarreg.

Cywydd hyd at 18 llinell yn seiliedig ar ddihareb Gymraeg: Rachel Philipps James, Crymych.

Limrig yn cynnwys y llinell: Roy Evans, Trewyddel.

Cân ddigri hyd at 30 llinell: Mary B Morgan, Llanrhystud.

Stori fer yn ymwneud â’r thema ‘Chwilio’: Megan Richards, Aberaeron.

Cystadleuaeth Clebran: Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys.

Emyn: J Meurig Edwards, Aberhonddu.

Talwrn y beirdd: Tîm Beca.

Cystadlaethau i Ddysgwyr (Noddir gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro)

Lefel Mynediad: Dosbarth Beth Davies, Llandysul.

Lefel Sylfaen: Dosbarth Beth Davies, Llandysul.

Lefel Canolradd: Dosbarth Beth Davies, Llandysul,

Lefel Uwch a phrofiadol: Lorraine Lloyd, Arberth.

Limrig: Imogen Morley, Trewyddel.