Cynhaliwyd Cymanfa ganu Bedyddwyr Gogledd Penfro yn ôl yr arfer, yng Nghapel Blaenffos ar y Llun cynta’ o fis Mai, ac fe gafwyd gwledd o ganu o dan arweiniad medrus y cerddor adnabyddus, Trystan Lewis, Deganwy.

Cychwynnodd y mawl ddydd Sul, Mai 5 yng Nghapel Cilfowyr pan gynhaliwyd y rihyrsal ola’ yng nghwmni’r arweinydd gwadd. Croesawyd ef gan lywydd y rihyrsal brynhawnol, Meredydd George, un o ddiaconiaid yr eglwys. Dau frawd ifanc o Eglwys Bethabara sef Marc ac Aled Morris, a gymerodd at y rhannau arweiniol.

Cafwyd canu arbennig oddi wrth y plant a’r arweinydd yn hapus iawn o weld yr oriel yn llawn gwynebau ifainc ffres. Ar ddiwedd yr oedfa cyhoeddwyd y fendith gan y Parch Rhosier Morgan.

Dwy chwaer â chysylltiad teuluol agos â Chilfowyr oedd yn gyfrifol am osod naws addolgar i gychwyn rihyrsal yr hwyr, sef Glenda Davies a Rhian Bowen sy’ bellach yn aelodau ym Mlaenffos. Parch Gareth Morris oedd y llywydd a chyhoeddwyd y fendith gan y Parch Rhosier Morgan.

Ar fore Llun, gwelwyd maes parcio capel Blaenffos yn llawn prysurdeb a’r festri yn un bwrlwm di-stop o baratoi lluniaeth ar gyfer amser cinio.

Llywydd oedfa’r plant oedd Mrs Meleri Williams, o Benybryn, sy’n athrawes gerdd yn Ysgol y Preseli, ac yn dilyn y croesawu a’r cyflwyno, cafwyd darlleniad a gweddi gan Dick Furnell, aelod o Gilfowyr.

Cyflwynodd y rhannau defosiynol yn yr iaith Gymraeg, er mai Americanwr yw Dick sydd â chysylltiad â’r ardal ers pymtheng mlynedd.

Mae’n arferiad bellach, i’r tô ifanc gyflwyno emynau’r bore ac fe gafwyd darlleniadau clir a chywir gan Glain a Gwern Phillips; Sion a Dafydd Evans; Morgan Davies; a Megan, Beca ac Elin George o Eglwys Ebeneser. Dyfan James; Gwenno Francis a Steffan Thomas o Eglwys Seion. Siwan Parry; Ela Morris; Nia Court ac Elen Scourfield o Eglwys Blaenffos.

Dwyn atgofion plentyndod yn Llandudoch a Phenybryn wnaeth Meleri yn ei hanerchiad, gan bwysleisio y pwysigrwydd o ddal ati – beth bynnag yw’r nôd. Casglyddion y bore oedd Leonard John, Melville Morris, Elis James a Steffan Thomas, a chyhoeddwyd y fendith gan y Parch Gareth Morris.

Wedi cyfranogi o'r bwyd, dechreuwyd oedfa’r pnawn, gyda’r emyn 'Pwyso ar ei Fraich' yn seinio’n orfoleddus, gyda chyn-aelod o Seion Crymych, yn llywyddu. Mae Mrs Rhian James-Davies, bellach wedi ymgartrefu yn Nant-y-Caws ger Caerfyrddin, yn dilyn ymddeoliad o fyd addysg a cherddorol.

Mrs Beti Thomas o Eglwys Ebeneser oedd yn gyfrifol am y rhannau arweiniol yn y prynhawn, ac eto, cafwyd canu grymus a chywir gan y côr.

Casglyddion yr oedfa oedd Mrs Eirlys Hallett; Arwel Thomas; Eirwyn Williams a Dilwyn Thomas.

Dilynnwyd yr un trywydd â’r bore gan Rhian, drwy sôn am ei phlentyndod yng Nghrymych a’r cyfnod bu’n derbyn gwersi piano oddi wrth y diweddar Lloyd Phillips, gan ddiolch yn fawr am gefnogaeth ardal a chapel mae hi’n ddyledus iawn iddynt.

Diweddwyd yr oedfa gyda Rhian yn offrymu gweddi bwrpasol i orffen gweithgaredd y prynhawn.

Pinacl y ddeuddydd o foliant oedd oedfa’r hwyr o dan lywyddiaeth y Parch Gareth Morris gyda’r emyn agoriadol o waith R Gwilym Hughes, yn annog y gynulleidfa a‘r cantorion, “ddod yn llon at orsedd Duw”.

Dau frawd ifanc yn eu harddegau, sef Rhys a Trystan Beeden o Eglwys Penybryn, fu wrth y rhannau defosiynol a Ceirwyn John, Eilir Lewis, Robert James a Dylan Thomas oedd y casglyddion.

Yr anthem a ddewiswyd eleni oedd 'Mawr yw’r Iôr' gan Mozart, a chafwyd datganiad ardderchog ohoni gan y cantorion.

Gwnaed y diolchiadau gan Mrs Rhianydd James, cadeiryddes y pwyllgor.

Diolchwyd i’r bonheddwr Trystan Lewis am ei arweiniad medrus sy’n tynnu’r gore allan o’r côr, ei hiwmor heintus a’i ddawn arbennig i gyfathrebu’n rhwydd gyda’r plant. Diolchwyd hefydn i Mrs Annie James am ei charedigrwydd hael yn lletya’r arweinydd, ac am gefnogaeth cyson ffrindiau pell ac agos. Bydd casgliad ariannol yr oedfa hwyrol eleni yn mynd tuag at Ymchwil Cancr y Deyrnas Unedig sy’n gwneud gwaith amhrisiadwy mewn ysbytai yng Nghymru.