Cafwyd noson hwylus yn Eisteddfod Gadeiriol Bryngwenith ar nos Wener, Ebrill 26.

Cadeirydd y noson oedd y Fns Florrie Rees, Parc Villa, Penrhiwllan, Llandysul, Ceredigion.

Arweinyddion y noson oedd y Parch Carys Ann a'r Fns Gwenda Evans.

Yng ngofal y cadeirio oedd Mr Dai Rees Davies a Mr Gwyndaf James oedd yn canu Cận y Cadeiro.

Beirniaid y noson oedd: cerdd – y Fns Sue Hughes; llen a llefaru – y Fns Beti Griffiths. Y gyfeilyddes oedd y Fns Lyn James, y trysorydd oedd y Fns Jillian Jones a’r y sgryfennydd oedd y Fns Anne Lewis.

Yn ystod y noson cyflwynwyd gair o werthfawrogiad am waith Mrs Elsie Evans, fel trysorydd yr Eisteddfod am dros 50 mlynedd a chyflwynwyd tusw o flodau iddi, gan ddymuno’n dda i’r trysorydd newydd Mrs Jillian Jones.

CERDDORIAETH

Unawd Blwyddyn 2 ac Iau: 1af Efan Evans Talgarreg; 2il Gwenlli Rosina Thomas Croeslan a Celyn Fflur Davies Llandyfriog; 3ydd Gruffydd Rhys Davies Llandyfriog.

Unawd Blwyddyn 3-4: 1af Gwennan Lloyd Owen Llanllwni; 2il Fflur McConnell Aberaeron; 3ydd Fflur Morgan, Drefach, Llanllwni a Lisa Mai Hamilton Adpar Castell Newydd Emlyn.

Unawd Blwyddyn 5-6: 1af Alwena Mair Owen, Llanllwni.

Unawd cyfyngedig i blant ysgolion cynradd sydd â chysylltiaid â gofalaeth y Parch Carys Ann: Blwyddyn 2 ac Iau: 1af Efan Evans, Talgarreg; Blwyddyn 3-6; 1af Lisa Mai Hamilton Adpar, Castell Newydd.Emlyn

Parti unsain dan 16 oed: 1af Parti Ysgol Sul Glynarthen.

Unawd blwyddyn 7-11 oed: 1af Elen Morgan, Drefach, Llanllwni.

Cân Werin dan 16 oed: 1af Alwena Mair Owen, Llanllwni; 2il Fflur McConnell, Aberaeron a Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni.

Unawd Cerdd Dant dan 16 oed: 1af Fflur McConnell Aberaeron; 2il Alwena Mair Owen, Llanllwni a Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni.

Canu Emyn dan 18 oed: 1af Alwena Mair Owen Llanllwni; 2il Gwennan Mair Owen Llanllwni.

Deuawd dan 18 oed: 1af Alwena a Gwennan Owen, Llanllwni.

Cystadleuaeth Ensemble Lleisol Cymru 2019: 1af Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys, Rhondda Cynon Tâf.

Unawd ar unrhyw offeryn cerdd: 1af Alwena Mair Owen Llanllwni; 2il Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni.

LLEFARU

Llefaru Blwyddyn 2 ac Iau: 1af Celyn Fflur Davies Llandyfriog; 2il Efan Evans Talgarreg; 3ydd Gruffydd Rhys Davies Llandyfriog.

Llefaru Blwyddyn 3-4: 1af Fflur McConnell Aberaeron; 2il Fflur Morgan Drefach Llanybydder; 3ydd Gwennan Lloyd Owen, Llanllwni a Lisa Mai Hamilton Adpar Castell Newydd Emlyn.

Llefaru Blwyddyn 5-6: 1af Sara Mai Davies Penrhiwpal ac Alwena Mair Owen Llanllwni.

Llefaru cyfyngedig i blant a chysylltiad ag eglwysi gofalaeth y Parch Carys Ann: Blwyddyn 2 ac Iau: 1af Efan Evans, Talgarreg. Blwyddyn 3-6: 1af Sara Mai Davies, Penrhiwpal; 2il Lisa Mai Hamilton, Adpar, Castell Newydd.Emlyn a Lleucu Medi Mathias, Sarnau; 3ydd Hanna Davies, a Leisa Jên Davies Glynarthen.

Llefaru Blwyddyn 7-11: 1af Elen Morgan, Drefach, Llanybydder.

Darllen darn o’r Ysgrythur-Dan 16: 1af Alwena Mai Owen, Llanllwni; 2il Elen Morgan, Drefach, Llanllwni; 3ydd Lisa Mai Hamilton, Adpar, Cstell Newydd. Emlyn a Fflur Morgan, Drefach, Llanybydder.

Darllen darn o’r Ysgrythur-Dros 16: 1af Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys, Rhondda Cynnon Taf; 2il Marian Morgan, Drefach, Llanybydder.

Her Adroddiad agored, dros 21: 1af Maria Evans, Alltwalis.

LLENYDDIAETH

Cystadleuaeth y Gadair: Cerdd ar y testun ‘Y Golled’ – Richard Llwyd Jones, Bethel, Caernarfon, gan ennill Cadair Fechan yn rhoddedig gan Dai Morgan a’i ferch Gaynor, Adpar.

Englyn: Nia Llewellyn, Drefach, Llandysul.

Can Ddigri: Olga Gravell, Pontyates, Llanelli.

Brawddeg: Ffugenw ‘Cadi’.

Limerig: Mary B Morgan, Llanrhystud.

Neges Destun: Trefor Huw Jones, Llanfarian.

Diolchwyd am bob cyfraniad a chymorth tuag at lwyddiant yr Eisteddfod ac i Mr Dai Morgan a Gaynor Morgan Adpar, Castell Newydd Emlyn, am y rhodd o Gadair yr Eisteddfod.

Diolchwyd hefyd i'r gwragedd am eu cymorth gyda gweini bwyd yn y festri ac i John a Huw Adams am eu cymorth wrth y drws.