Bu Ysgol Gerdd Ceredigion yn dathlu buddugoliaeth eu Côr Hyn yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2019 yn swn caneuon Abba yng Nghlwb Rygbi Castellnewydd Emlyn. Hefyd, cyflwynwyd cyfraniad o £1,900 i'r DogsTrust, Penybont-ar-Ogwr, a godwyd gan y côr yn y gyngerdd Nadolig er cof am Sioned James, Llandysul. Diolch i Banc Barclays am noddi punt am bunt.